Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ailagor gwasanaethau’r Cyngor ar ôl y Cyfnod Atal Byr
Published: 05/11/2020
Bydd gwasanaethau a chyfleusterau’r Cyngor, sydd ar gau ar hyn o bryd neu yn gweithredu dan gyfyngiadau, yn ailagor pan ddaw Cyfnod Atal Byr Llywodraeth Cymru i ben ddydd Llun, 9 Tachwedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
· Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
· Sir y Fflint yn Cysylltu: Bwcle, Cei Connah a’r Wyddgrug
· Canolfannau Cymunedol
Bydd ysgolion i gyd ar agor.
Bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor i breswylwyr Sir y Fflint YN UNIG rhwng 9.00 a.m. a 5.00 p.m., saith diwrnod yr wythnos. Mae’n bosibl y bydd y galw yn y Canolfannau yn uchel yn ystod yr wythnosau cyntaf a byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar amseroedd ciwio ar ein gwefan (www.siryfflint.gov.uk). Gofynnwn hefyd i breswylwyr ystyried a yw eu taith yn angenrheidiol.
Er diogelwch preswylwyr a’n gweithwyr, mae mesurau rheoli arbennig hefyd wedi cael eu cyflwyno yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Bydd manylion llawn ar gael ar ein gwefan a bydd yn cynnwys y canlynol:
m ond cyfanswm bach o wastraff y byddwn yn ei dderbyn yn ystod y bythefnos gyntaf ar ôl ailagor.
- Ni chaniateir mynediad i faniau ag ochrau uchel neu drelars, hyd yn oed gyda hawlen ddilys (caniateir mynediad i faniau/car a cherbydau /4x4).
- Gofynnir i chi ddangos prawf eich bod yn breswylydd yn Sir y Fflint – bydd bill cyfleustodau diweddar neu fil Treth y Cyngor wedi'i ddyddio o fewn y 12 mis diwethaf yn ddigonol.
- Byddwn yn gweithredu system lle caiff unigolyn ei adael i mewn wedi i un arall ddod allan. Mae’n rhaid i chi aros yn eich car wrth giwio.
- O ganlyniad i’r rheoliadau cadw pellter o ddwy fedr ni ellir rhoi cymorth i ddadlwytho deunyddiau.
I weld mwy o wybodaeth a chwestiynau cyffredin am ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ewch i www.siryfflint.gov.uk/CAC.
Bydd pob llyfrgell a chanolfan hamdden a weithredir gan Aura yn ailagor ddydd Llun, 9 Tachwedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy https://aura.cymru
Mae cludiant cyhoeddus yn parhau i weithredu yn Sir y Fflint, er, awgrymir yn gryf bod teithwyr yn gwirio amserlenni cwmnïau unigol cyn cynllunio teithiau ac maent yn cael eu hatgoffa bod gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar gludiant cyhoeddus.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor;
“Yn ystod y cyfnod atal hwn, rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau craidd y Cyngor fel rydym wedi parhau i’w wneud ers mis Mawrth. Rydym hefyd wedi parhau i weithredu gwasanaethau lleol allweddol lle gallwn, a lle mae gennym ganiatâd i wneud hynny.
“Rydym yn apelio ar bawb i fod yn gyfrifol, i fod yn hyblyg ac i ddilyn y rheoliadau a’r canllawiau a fydd ar waith ar draws Gymru ar ôl diwedd y Cyfnod Atal Byr a’r rhai hynny sydd mewn grym ar draws y ffin yn Lloegr.
Rydym yn diolch i bawb am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.”
Mae gwybodaeth bellach am reoliadau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru ar gael ar: https://llyw.cymru