Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newidiadau i’r fenter nofio
Published: 13/05/2015
Mae’n rhaid i Gyngor Sir y Fflint wneud newidiadau iw darpariaeth nofio am
ddim o
ganlyniad i leihad mewn cyllid.
Dyraniad cyllid y Cyngor ar gyfer Menter Nofio am Ddim Llywodraeth Cymru
ar gyfer 2015/2016 yw £121,500, syn ostyngiad o dros £43,000 mewn cyllid yn y
tair
blynedd ariannol diwethaf. Maer fformiwla ar gyfer buddsoddi bellach yn
seiliedig ar amddifadedd yn hytrach na phoblogaeth.
Maer MNADd yn darparu cyfleoedd nofio am ddim i blant dan 16 oed ac i bobl
dros 60 oed, ac yn gosod meini prawf sylfaenol ar gyfer yr hyn syn rhaid i bob
Cyngor ei ddarparu. I blant dan 16 oed, maer rhain yn cynnwys
14 awr o nofio am ddim yr wythnos fesul Cyngor yn ystod y gwyliau ysgol; a
nofio am ddim
i oedolion dros 60 oed yn ystod yr holl sesiynau nofio cyhoeddus y tu allan i
wyliaur ysgol.
Oherwydd y gostyngiad yn ei grant, maer Cyngor yn gorfod gwneud rhai
newidiadau ir ffordd y maen darparur rhaglen Nofio am Ddim yn y Sir.
Bydd Sir y Fflint yn defnyddio elfen dan 16 or grant drwy ddarparu gwersi
nofio strwythuredig i blant, yn unol âr flaenoriaeth genedlaethol Mae Pob
Plentyn yn Nofiwr. Bydd y Cyngor hefyd yn disodli sesiynau sblash gwyliau
ysgol am ddim gyda sesiynau sblash a delir, a bydd sesiynau nofio am ddim ir
teulu ar y penwythnos yn cael eu disodli gyda sesiynau nofio am ddim i blant, a
fydd yn y ddau bwll nofio sydd â’r galw mwyaf yn Sir y Fflint, sef Pafiliwn
Jade Jones a Chanolfan Hamdden yr Wyddgrug. Bydd y newidiadau yn dod i rym o
ddydd Llun 1 Mehefin, 2015.
Disgwylir y bydd sesiynau nofio strwythuredig am ddim y Cyngor, a sesiynau
nofio am ddim i bobl dros 60 oed, yn yn parhau ar yr un sail âr flwyddyn
flaenorol.