Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Clwyd Theatr Cymru yn penodi Tamara Harvey fel Cyfarwyddwr Artistig
Published: 12/06/2015
Heddiw (2 Mehefin 2015) bydd Clwyd Theatr Cymru yn cyhoeddi penodiad Tamara
Harvey fel Cyfarwyddwr Artistig newydd. Bydd yn ymuno â Chlwyd Theatr Cymru ym
mis Awst eleni.
Ar ôl cael ei phenodi, meddai Tamara Harvey: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi
cael fy ngwahodd i fod yn gyfarwyddwr artistig i Glwyd Theatr Cymru ar adeg mor
gyffrous yn ei hanes. Mae Terry Hands wedi gwneud gwaith rhagorol yn datblygu
teulu o artistiaid a chynhyrchu gwaith ardderchog ar gyfer cynulleidfa deyrngar
sy’n tyfu. Nawr wrth i’r cwmni symud i’w deugeinfed flwyddyn, edrychaf ymlaen
at ehangu’r cylch hwnnw: meithrin talent o Gymru a thu hwnt, a chydweithio â
chwmnïau ac artistiaid o bell ac agos i sicrhau fod y begwn hwn o arloesedd ar
ben bryn yn yr Wyddgrug yn ysbrydoliaeth i Gymru, y DU a gweddill y byd.
Meddai Ron Davies, Cadeirydd: “Mae Bwrdd Clwyd Theatr Cymru yn arbennig o falch
o gael cyhoeddi penodiad Tamara Harvey fel ein Cyfarwyddwr Artistig. Tamara
yw’r ymgeisydd delfrydol ar gyfer cyfnod nesaf ein datblygiad fel cwmni
cynhyrchu a theatr blaenllaw yn y DU. Mae ganddi enw da ymhlith ei chyfoedion
a llwyth o egni, gweledigaeth a chreadigrwydd. Mae Tamara yn rhannu ein
gweledigaeth i ddatblygu ein safle o gryfder fel cydgomisiynydd a chwmni
teithiol yn y DU ac yn rhyngwladol, ac arallgyfeirio ein arlwy celfyddydol i
wneud ein sylfaen yng Nghlwyd Theatr Cymru yn ganolbwynt bywiog a phrif
gyrchfan diwylliannol.”
Mae Tamara Harvey wedi cyfarwyddo yn y West End, ledled y DU a thramor, gan
weithio ar ddramâu clasurol, ysgrifennu newydd, theatr cerdd a ffilm. Yn fwy
diweddar, cyfarwyddodd Pride and Prejudice i Theatr Crucible Sheffield ac, yn
Theatr Hampstead, dramau blaenllaw Elephants gan Rose Heiney, Hello/ Goodbye
gan Peter Souter ac In the Vale of Health, cylched o bedair drama gan Simon
Gray. Mae perfformiadau blaenllaw byd-eang eraill wedi cynnwys From Here to
Eternity, y sioe gerdd newydd gan Tim Rice, Stuart Brayson a Bill Oakes yn
Theatr Shaftesbury, Breeders yn Theatr St James aThe Contingency Plan a tHe
dYsFUnCKshOnalZ!, ar gyfer Theatr Bush).
Gwahoddwyd Harvey gan Josie Rourke i fod yn Gyfarwyddwr Cysylltiol ar gyfer ei
blwyddyn olaf yn Theatr Bush yn 2010 -11, lle cyfarwyddodd Tamara Where’s My
Seat?, pump o’r Sixty-Six Books a drama arobryn The Kitchen Sink, y tri
chynhyrchiad cyntaf yng nghartref newydd Theatr Bush. Mae wedi bod yn
gyfarwyddwr dair gwaith ar 24 Hour Plays at the Old Vic ac mae wedi bod aelod o
banel Gwobrau George Devine ddwywaith ar gyfer y Dramodydd Mwyaf Addawol.
Mae’n aelod o fwrdd Gwyl Ddrama Genedlaethol y Myfyrwyr, bu’n un o’r beirniaid
yn yr Wyl eleni, mae’n ymddiriedolwraig i Sefydliad Peggy Ramsay ac mae ar
banel theatr cerdd ar gyfer gwobrau Artistiaid o Ddewis Sefydliad Kevin Spacey.
Adeiladwyd Clwyd Theatr Cymru yn wreiddiol fel Canolfan Gelfyddydau
Ranbarthol. Cafodd ei chreu drwy weledigaeth Cyngor Sir y Fflint gynt ac fe’i
hagorwyd yn 1976. Mae’r theatr tua milltir o ganol tref yr Wyddgrug yng
ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae’n agos at ddinas Caer. Mae’r ganolfan yn
cynnwys pump o leoliadau perfformio – Theatr Anthony Hopkins, Theatr Emlyn
Williams, Stiwdio 2, Ystafell Clwyd (aml-ddefnydd) a Sinema – yn ogystal â siop
lyfrau, bwyty a thair oriel gelf.
Mae pump o Gyfarwyddwyr Artistig wedi bod yn y theatr dros y 39 mlynedd
diwethaf: George Roman (1976-1985), Toby Robertson (1985-1992), Helena
Kaut-Howson (1992-1995) a Terry Hands (1997-2015). Mae Tim Baker wedi bod yn
Gyfarwyddwr Cysylltiol ers 1997 ac mae’n rheoli rhaglen y Theatr Bobl Ifanc
hynod lwyddiannus. Ariennir y theatr ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a
Chyngor Celfyddydau Cymru.
Clwyd Theatr Cymru yw’r prif gwmni cynhyrchu drama yng Nghymru ac mae’n denu
bron i draean o gyfanswm cynulleidfaoedd theatr Cymru yn flynyddol. Yn 1998
enillodd Clwyd Theatr Cymru wobr Theatr y Flwyddyn Barclays/TMA ac yn 1999 fe’i
dynodwyd yn Gwmni Celfyddydau Perfformio Cenedlaethol Cymru gan Gyngor
Celfyddydau Cymru.
Nodyn i Olygyddion
Gwybodaeth fywgraffiadol bellach
Ganwyd Tamara Harvey yn Botswana, dysgodd gerdded yn yr Unol Daleithiau ac fe’i
magwyd yn Brighton. Sylweddolodd ei bod am fod yn gyfarwyddwr pan oedd yn ddwy
ar bymtheg oed pan gafodd ei derbyn ar raglen addysgol fel rhan o Wyl
Gelfyddydol Ryngwladol Brighton, gan gysgodi cydgyfarwyddwyr Noye’s Fludde.
Treuliodd flwyddyn dramor ym Motswana ac Efrog Newydd, lle bu’n gwneud swyddi
amrywiol fel cynhyrchydd, cyfarwyddwr, gweithredwr bwrdd goleuo, intern,
swyddog gweinyddol cysylltiol a chynorthwy-ydd castio. Ei chynhyrchiad cyntaf
fel cyfarwyddwr oedd ym Motswana, lle cynhyrchodd ei haddasiad ei hun o ddrama
The Lion, the Witch and the Wardrobe ar gyfer Gwyl Gelfyddydol Ryngwladol
Maitisong.
Dychwelodd Harvey i’r DU i astudio ym Mhrifysgl Bryste, lle ffurfiodd ei chwmni
theatr ei hun, Bright Angel, gan gynhyrchu a chyfarwyddo Romeo and Juliet,
Henry V a Sixteen Winters gan Laura Wade yn yr Old Vic ym Mryste. Yn Llundain,
cynhyrchodd Bright Angel Something Cloudy, Something Clear gan Tennessee
Williams’ ac Young Emma gan Wade, yn y Finborough.
Am bum mlynedd ar ôl graddio, bu Tamara yn cyfuno’r gwaith o fod yn gyfarwyddwr
cynorthwyol mewn opera a theatr â’i chynhyrchiadau ei hun, gan weithio i Opera
Deithiol Lloegr, Opera Garsington, Opera New Kent, RADA, Shakespeare’s Globe,
ac ar gynhyrchiadau theatr yn y West End ac ar daith. Cynorthwyodd y
cyfarwyddwr a enwebwyd ar gyfer Gwobr Tony, Tim Carroll, ar y cynhyrchiad
gwreiddiol o’r ddrama Twelfth Night a adfywiwyd yn ddiweddar a oedd yn serenu
Mark Rylance, a bu hefyd yn cynorthwyo Stephen Poliakoff ar Sweet Panic, a oedd
yn serenu Victoria Hamilton a Jane Horrocks.
Ei chynhyrchiadau cyntaf mawreddog fel cyfarwyddwr oedd Much Ado About Nothing
gyda chast benywaidd i gyd yn Theatr Globe, taith gyntaf The Graduate yn y DU
fel cydgyfarwyddwr â Terry Johnson ar One Flew Over the Cuckoo’s Nest yn serenu
Christian Slater, Frances Barber a Mackenzie Crook.
Mae ei gwaith theatr pellach yn cynnwys Plague Over England (Finborough &
Duchess); Bash (Stiwdios Trafalgar); Whipping it Up (New Ambassadors);
Educating Rita a Smash (yn Menier Chocolate Factory/Theatr Brenhinol Bath ac ar
daith); Romeo and Juliet (Theatre of Memory yn Middle Temple Hall); Dancing at
Lughnasa (Theatr Rep Birmingham); Where the Mangrove Grows (Theatre 503); Who’s
the Daddy? (King’s Head); Bedroom Farce (West Yorkshire Playhouse); The
Importance of Being Earnest (Theatr Shakespeare New Jersey); Touch Wood (Theatr
Stephen Joseph); Closer (Theatr Frenhinol Northampton) a Tell Me On a Sunday
(taith y DU). Mae Tamara hefyd yn aelod sylfaenol o’r Lamb Players ac mae wedi
cyfarwyddo eu drama Much Ado About Nothing; The Merchant of Venice; Love’s
Labour’s Lost ac As You Like It. Yn 2010, bu Tamara yn castio a chyfarwyddo
dramâu theatr sy’n ffurfio rhan annatod o ffilm nodwedd Anonymous, gan Roland
Emmerich (cyfarwyddwr Independence Day). Roedd ei ‘chriw o chwaraewyr’ ar
gyfer y ffilm yn cynnwys Mark Rylance, Jasper Britton ac Alex Hassell.
Am wybodaeth bellach:
Barbara Milne, Rheolwr Cyfathrebiadau Corfforaethol, Cyngor Sir y Fflint.
barbara .milne@flintshire.gov.uk, 01352 702111