Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi Rhaglen Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2015
Published: 10/06/2015
Mae rhaglen Wythnos Fusnes Sir y Fflint eleni wedi’i chyhoeddi.
Cynhelir digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint o 13 tan 16 Hydref a
bydd noson Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2015 yn cael ei chynnal ar 23 Hydref.
Mewn cydweithrediad â chwmni AGS Security Systems a Westbridge Furniture,
Wythnos Fusnes Sir y Fflint yw un o’r digwyddiadau pwysicaf o’i fath yn y
rhanbarth, ac mae’n denu oddeutu 2,000 o fusnesau bob blwyddyn.
Mewn digwyddiad lansio a gynhaliwyd yn Soughton Hall ger yr Wyddgrug yn
ddiweddar, datgelwyd y rhaglen ddigwyddiadau a gynhelir dros y pum diwrnod.
Mae Wythnos Fusnes 2015 yn dechrau ddydd Mawrth 13 Hydref gydag Arddangosfa
Fusnesau Rhanbarthol - y prif noddwr yw Westbridge Furniture- a gynhelir yng
Ngholeg Cambria tan 4pm. Mae’n dechrau gyda brecwast busnes arloesedd
Cynghrair Mersi Dyfrdwy am 8 am, yna i ddilyn caiff yr wythnos fusnes ei
lansio’n swyddogol am 9.45am. Bydd nifer o arddangoswyr, sgyrsiau a gweithdai
yn yr arddangosfa
Ddydd Mercher 14 Hydref, lleoliad digwyddiadau’r bore fydd Gwesty Springfield
yn Nhreffynnon, a thema’r diwrnod fydd Twf Rhanbarthol Tebygol. Bydd y bore’n
cynnwys cyflwyniadau am y cynllun cludiant cenedlaethol a lleol, prosiect
carchardai gogledd Cymru a Datblygiad Porth y Gogledd.
Ddydd Iau 15 Hydref, yng Ngwesty Dewi Sant, Ewlo, thema’r diwrnod fydd yr
economi genedlaethol a rhanbarthol. Bydd y pynciau trafod yn cynnwys
tueddiadau gweithgynhyrchu’r DU, gydag araith gan Bennaeth Gweithgynhyrchu Banc
Barclay, Mike Rigby.
Ddydd Gwener 16 Hydref, cynhelir digwyddiad sy’n boblogaidd iawn bob blwyddyn
sef Amser Holi ac Ateb Aaelodau’r Cynulliad ac Aaelodau Seneddol yng Ngholeg
Cambria, o 8.30 tan 9.30am. Bydd digwyddiad rhwydweithio twristiaeth
rhanbarthol yn cael ei gynnal yng Ngwesty Northop Country House, am 11am gyda
chyfle i rwydweithio dros ginio.
Daw’r wythnos i ben yn ôl yr arfer â Gwobrau Busnes Sir y Fflint – prif noddwr,
AGS Security Systems – sydd ar agor i bob busnes yn Sir y Fflint. Cynhelir hwn
ddydd Gwener 23 Hydref yn Soughton Hall, Llaneurgain.
Wrth siarad yn y digwyddiad lansio, meddai Llywydd yr Wythnos Fusnes, yr
Arglwydd Barry Jones:
“Rwy’n falch o gael bod yn Llywydd i Wythnos Fusnes Sir y Fflint. Mae bellach
ar ei nawfed blwyddyn ac mae’n dal i wneud cynnydd sylweddol. Mae busnesau’n
bwysig i’n Sir ac mae’r gymuned fusnes yn mynd o nerth i nerth heb fymryn o
hunanfoddhad. Mae cwmnïau o’r radd flaenaf yma yng nghalon y ganolfan
ragoriaeth weithgynhyrchu. Mae Sir y Fflint yn cystadlu ar lefel uwch na’r
disgwyl a dylem i gyd fod yn falch iawn ohoni.”
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Mae’r Cyngor yn eithriadol o falch o Wythnos Fusnes Sir y Fflint a theimlwn
mai hon yw’r gorau o’i math yng ngogledd Cymru. Roedd y digwyddiad lansio
eleni yn ysbrydoledig ac roedd yn wych gweld cymaint o wynebau newydd a
busnesau newydd yn awyddus i gymryd rhan. Mae’r Cyngor yn cymryd ei rôl o
gefnogi ein cymuned fusnes yn ddifrifol iawn a byddwn yn annog busnesau o bob
maint i gymryd rhan yn Wythnos Fusnes Sir y Fflint – i ddefnyddio’r cyfleoedd
hyn i rwydweithio a masnachu a chodi proffil eich busnes.”
Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd:
Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Mae
entrepreneuriaeth yn gryf yn Sir y Fflint ac mae’r sir yn cael effaith
sylweddol yn yr economi genedlaethol. Mae Sir y Fflint yn lle da i wneud
busnes ac mae’r Cyngor hwn yn gweithio’n ddiflino i roi busnesau o bob maint ar
y map.
Os bydd unrhyw beth fel y digwyddiad lansio, credaf y bydd Wythnos Fusnes Sir
y Fflint eleni yn eithriadol o gyffrous ac ysgogol, a’r gorau eto.”
Am gyfle i noddi, i archebu stondin ac am fanylion pellach am yr holl
ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fusnes, edrychwch ar wefan
www.flintshirebusinessweek.co.uk neu cysylltwch â thîm yr Wythnos Fusnes ar
01352 703219. Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint hefyd ar Twitter: @FBW_FCC
Llun
Yn y digwyddiad lansio, o’r chwith i’r dde, mae: Y Cynghorydd Aaron Shotton,
Jonathan Turner (AGS Security Systems), Paul Islip (Westbridge Furniture), Y
Cynghorydd Derek Butler, Yr Arglwydd Barry Jones, Y Foneddiges Janet Jones, Y
Cynghorydd Ray Hughes (Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint).