Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Defnyddio Symiau Gohiriedig
Published: 11/06/2015
Bydd dod o hyd i ffyrdd mwy hyblyg o ddarparu tai fforddiadwy yn Sir y Fflint
yn cael ei drafod yn y Cabinet ddydd Mawrth 16 Mehefin.
Swm gohiriedig yw arian a delir gan ddatblygwyr i’r Cyngor pan fydd maint
datblygiad tai yn mynnu fod tai fforddiadwy’n cael eu darparu, ond pan nad oes
modd cyflawni hynny’n briodol ar y safle.
Gofynnir i Aelodau’r Cabinet gymeradwyo polisi ynglyn â sut i wario symiau
gohiriedig er mwyn helpu i ddarparu tai fforddiadwy ledled y Sir.
Trwy ddefnyddio cytundebau Adran 106, caiff symiau gohiriedig eu clustnodi er
mwyn darparu tai fforddiadwy mewn amryw o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys prynu
tir ar gyfer tai fforddiadwy; mentrau sy’n cynorthwyo prosiectau adfywio tai,
gan gynnwys cynnig benthyciadau i fynd i’r afael â chartrefi gwag; a
chyfraniadau ariannol tuag at ddatblygiad tai fforddiadwy a thai rhenti
cymdeithasol a chynlluniau perchnogaeth cartrefi cost isel.
Lle bo hynny’n bosibl, caiff yr arian a gesglir o symiau gohiriedig ei wario yn
yr un ardaloedd Cyngor Cymuned ag y cawsant eu cynhyrchu. Bydd y Cyngor yn
defnyddio’r arian cyn pen pum mlynedd ar ôl i’r swm gael ei dderbyn.
Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai:
“Mae tai fforddiadwy’n uchel ar restr flaenoriaethau’r Cyngor ac mae defnyddio
symiau gohiriedig mewn ffordd hyblyg yn profi ein hymrwymiad i sicrhau fod ein
holl breswylwyr yn cael cyfle i gael mynediad at eu cartrefi eu hunain yn
lleol.”