Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Costau gwresogi cymunol
Published: 11/06/2015
Mae tenantiaid rhai o dai’r Cyngor ar fin derbyn ad-daliad am eu costau
gwresogi.
Mae naw o gynlluniau gwresogi cymunol ledled Sir y Fflint lle mae tenantiaid yn
elwa o gyfradd contract masnachol a redir gan y Cyngor ac a gytunir 12 mis o
flaen llaw. Ar y dechrau mae’r Cyngor yn talu am y tanwydd ac yna’n casglu’r
arian gan y tenantiaid ar ben eu rhent wythnosol, gyda’r nod o adennill y
costau erbyn diwedd pob blwyddyn ariannol. Mae costau tanwydd yn seiliedig ar
y swm a ddefnyddiwyd yn y flwyddyn flaenorol.
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan fod prisiau ynni wedi bod yn is
na’r disgwyl, adferwyd costau gwresogi dros ben mewn rhai ardaloedd. Yn
Bolingbroke a Richard Heights yn y Fflint, bydd pob tenant sy’n rhan o’r
cynllun gwresogi cymunol yn derbyn ad-daliad o £55.97.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol yma (2015/16), mae’r Cyngor wedi medru prynu nwy
am bris is nag y llynedd.
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 16 Mehefin, gofynnir i Aelodau gymeradwyo
gostyngiad yn y costau gwresogi wythnosol. Gofynnir iddynt hefyd gymeradwyo
ad-daliadau naill ai ar ffurf credyd rhent os oes gan y tenant ôl-ddyledion
rhent neu drwy siec os yw’r cyfrif rhent yn gyfredol.
Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai:
“Rwy’n eithriadol o falch ein bod yn gallu cynnig ad-daliad i rai o’n
tenantiaid ar eu biliau ynni a’n bod yn gallu cynnig gostyngiad yn ein taliadau
gwresogi ar draws pob un o’r naw cynllun gwresogi cymunol y flwyddyn ariannol
hon. Roedd costau tanwydd eisoes yn werth am arian ac mae’r taliadau newydd
hyn yn golygu y bydd rhai o’n tenantiaid yn talu cyn lleied â £6.12 yr wythnos
i wresogi eu cartrefi.”