Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arfarniad a chynllun rheoli ardal gadwraeth Gwaenysgor
Published: 12/06/2015
Disgwylir i’r Cabinet gymeradwyo cynllun rheoli ar gyfer ardal gadwraeth
Gwaenysgor ddydd Mawrth (16 Mehefin).
Ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yw ardaloedd
cadwraeth ac mae gan yr awdurdod cynllunio lleol ddyletswydd statudol i’w
dynodi er mwyn gwarchod eu cymeriad neu eu golwg.
Mae Gwaenysgor ymhlith 32 o ardaloedd cadwraeth yn Sir y Fflint. Dyma’r ardal
gyntaf i’w dynodi’n ardal gadwraeth gyda chymorth y gymuned leol, y Cyngor
Cymuned a’r Aelod lleol, ond mae disgwyl i eraill ddilyn eu hesiampl maes o law.
Bydd y Cynllun yn helpu i lunio ac asesu cynigion datblygu; diogelu adeiladau
hanesyddol pwysig a sicrhau bod cymeriad arbennig y pentref yn cael ei warchod.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd:
“Mae Gwaenysgor yn bentref y gallwn ymfalchïo ynddo, ac mae iddo nifer o
nodweddion pensaernïol a hanesyddol. Er bod newidiadau’n anorfod, mae angen i
ni reoli’r newidiadau hynny i sicrhau bod cymeriad y pentref yn parhau. Os
caiff y cynllun rheoli hwn ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd yn cynnwys ymestyn
ardal gadwraeth y pentref, a bydd yn cynnig canllawiau ar gyfer dylunio
adeiladau newydd a newid tirwedd yr ardal.”
Mae’r cynllun rheoli i’w weld yn agenda adroddiad y Cabinet y mis hwn:
www.siryfflint.gov.uk