Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai tybiannol
Published: 12/06/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi paratoi canllawiau cynllunio i ddatblygwyr sy’n
ystyried cyflwyno cynigion ar gyfer datblygiadau tai tybiannol.
Fel nifer o gynghorau yng Nghymru a Lloegr, nid oes gan Sir y Fflint y
cyflenwad tir pum mlynedd y mae Llywodraeth Cymru yn galw amdano.
Un o brif ganlyniadau hyn yw’r pwysau y mae’r Cyngor yn ei wynebu, ac y bydd yn
parhau i’w wynebu, o ran datblygiadau tai tybiannol nes y bydd yn mabwysiadu
Cynllun Datblygu Lleol, neu nes y gall ddangos bod ganddo gyflenwad tir pum
mlynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd:
“Mae’r Nodyn Canllaw” hwn wedi’i baratoi ar gyfer datblygwyr sy’n ystyried
cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer tir nad yw wedi’i gynnwys yn y Cynllun
Datblygu Lleol. Mae wedi’i gynllunio i sicrhau bod datblygwyr yn rhoi
cyfiawnhad llawn dros eu cynnig, er mwyn i’r Cyngor fedru rhoi ystyriaeth
briodol i’r cais, o gofio y byddai’n eithriad i’r cynllun datblygu . Mae hyn
yn cynnwys gwybodaeth i ddangos bod y cynnig yn gynaliadwy, yn hyfyw a bod modd
ei roi ar waith. Rhaid i’r datblygiad gydymffurfio o hyd â’r Cynllun datblygu
a’r polisïau cynllunio cenedlaethol. ”
Mae manylon llawn y Nodyn Canllaw i Ddatblygwyr i’w gweld yn agenda’r Cabinet y
mis hwn: www.siryflint.gov.uk