Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint ar frig tabl CO2
Published: 26/06/2015
Mae Sir y Fflint ar frig y tabl ar gyfer ei arbedion allyriadau CO2 o
wasanaethau gwastraff
ac ailgylchu’r Cyngor.
Yn ôl Eunomia, ymgynghoriaeth amgylcheddol syn arbenigo mewn rheoli gwastraff
a materion ynni, mae ailgylchu gan gynghorau lleol ledled Cymru, Lloegr a
Gogledd Iwerddon wedi arbed mwy o CO2 yn 2013/14 nag erioed or blaen.
Mae trydydd Adroddiad Mynegai Carbon Ailgylchu Eunomia yn dangos bod Sir y
Fflint wedi arbed 21kg CO2 fesul person yn 2013/14 oi gymharu âr flwyddyn
flaenorol, yn neidio o’r chweched safle yng Nghymru i’r cyntaf.
Mae offeryn rhyngweithiol ar lein y cwmni (http://www.eunomia.co.uk/carbonindex
yn caniatáu i arbedion CO2 y cyngor gael eu cymharu âi gilydd a rhwng
blynyddoedd.
Dywed Eunomia bod casglu mwy o fetelau a phlastig wedi bod yn hanfodol i’r
cynnydd. Yn 2013/14, arbedwyd 1.7 miliwn tunnell o garbon o ganlyniad i
ailgylchu’r
deunyddiau hyn.
Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, Aelod Cabinet Rheoli Gwastraff, Gwarchod y
Cyhoedd a Hamdden:
“Rydym yn hynod o falch ein bod ar frig tabl Cymru ar gyfer arbedion allyriadau
CO2.
Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb gefnogaeth ein trigolion, a hoffwn ddiolch
iddynt am eu hymrwymiad i ailgylchu.