Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Neuadd gymuned yn agor ar ei newydd wedd
Published: 29/06/2015
Mae Neuadd Gymuned Cilfan yn y Fflint wedi agor yn swyddogol wedi iddi gael ei
hailwampio.
Mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud i wella ac addasu’r neuadd, a fydd yn awr
yn hygyrch i bawb.
Mae’r rhain yn cynnwys cegin newydd a thapiau lifer yn y sinc; mae’r waliau
wedi’u paentio mewn lliwiau cyferbyniol, ynghyd â’r canlynol: goleuadau i
helpu’r rhai â nam ar eu golwg; rheiliau llaw mewn lliw cyferbyniol ar hyd ramp
y brif fynedfa; drws tân newydd a ramp a rheiliau mewn lliw cyferbyniol; toiled
hygyrch; bleindiau ar yr holl ffenestri i leihau disgleirdeb a lloriau
gwrth-lithr drwy’r neuadd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, a
ail-agorodd y Neuadd yn swyddogol:
“Rwy’n falch iawn fod y Cyngor wedi medru buddsoddi yn y neuadd gymuned
boblogaidd hon. Mae’n bwysig bod pawb yn gallu defnyddio a mwynhau Neuadd
Gymuned Cilfan, ac mae’r addasiadau a’r gwaith ailwampio a wnaed yn golygu y
bydd hynny’n digwydd yn awr.”
Roedd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ray Hughes, ac aelodau’r ward
leol, y Cynghorydd Alex Aldridge a’r Cynghorydd David Cox yn bresennol hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Alex Aldridge:
“Mae’n braf bod yma i weld y Ganolfan Gymuned yn ailagor yn ffurfiol ar ei
newydd wedd. Rwyf fi, a’m cyd-gynghorydd David Cox, wedi bod yn pwyso ar y
Cyngor ers tro i fuddsoddi yn y Neuadd hon sy’n cael ei defnyddio’n aml.
Gobeithio y caiff ei defnyddio llawn cymaint yn y dyfodol.”