Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweithdy Hanes Teulu i Ddechreuwyr
Published: 30/06/2015
Cynhelir gweithdy hanes teulu i ddechreuwyr ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf yn
Archifdy Sir y Fflint, Yr Hen Reithordy, Penarlâg o 10.00am tan 1.00pm
Ydych chi erioed wedi meddwl lle oedd eich hynafiaid yn byw, yn gweithio neu
bler aethant ir ysgol? Bydd chwilio drwy gofnodion gwreiddiol yn eich helpu i
gael cipolwg ar fywyd pob dydd Sir y Fflint yn y gorffennol.
Hoffech chi olrhain hanes eich teulu drwy ddefnyddio gwefannau hanes teulu
poblogaidd, Ancestry a Find My Past?
Bydd staff wrth law i ddangos ystod eang o gofnodion gan gynnwys y Cyfrifiad;
cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau; cofnodion plwyfi; a
chofnodion Etholiadol. Byddant yn egluro sut i ddefnyddio gwybodaeth ar-lein a
chanfod mwy or dogfennau gwreiddiol sydd ar gael yn yr Archifdy.
Rhaid archebu lle gan fod lleoedd yn gyfynedig. Y pris yw £10 y pen.
Ffon. 01244 532364 e-bost: archives@flintshire.gov.uk