Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobr genedlaethol i gydnabod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint
Published: 29/06/2015
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd Cyngor
Sir y Fflint wedi derbyn gwobr genedlaethol.
Enillodd gwasanaeth blynyddoedd cynnar a chymorth i deuluoedd y Cyngor wobr gan
Gyngor Gofal Cymru yn ddiweddar o dan y categori ‘Gwell canlyniadau drwy
gydweithio’.
Roedd yn cydnabod y partneriaethau cryf sydd wedi’u datblygu rhwng nifer o
wasanaethau a sefydliadau yn Sir y Fflint, i sicrhau fod magu plant
rhagweithiol a phositif yn cael ei hyrwyddo, a bod canlyniadau negyddol i blant
a phobl ifanc yn cael eu hatal. Dywedodd y beirniaid fod cryfder y berthynas
rhwng yr ysgolion, y rhieni a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, y cysylltiadau â
Phrifysgol Glyndwr yn ogystal â’r dealltwriaeth go iawn o agwedd holistaidd
tuag at blant gan gynyddu eu dyheadau a’u cyflawniad, wedi creu argraff fawr
arnynt. Derbyniwyd y Wobr gan Ysgol Merllyn, Bagillt ar ran y Gwasanaethau
Addysg ac Ieuenctid, i gydnabod y rhaglen Teuluoedd ac Ysgolion Gyda’i Gilydd.
Meddai Ms T Jones, Pennaeth Ysgol Merllyn:
Rwyf wrth fy modd ein bod wedi ennill yr acolad gofal cymdeithasol. Mae’n
destament i’r gwaith gwerthfawr a wneir yn Ysgol Merllyn. Rwy’n falch iawn ein
bod yn parhau i ddefnyddio agwedd teulu cyfan i sicrhau’r canlyniadau gorau i’n
dysgwyr a bod hynny wedi cael ei gydnabod.”
Yng ngwobrau Cyngor Gofal Cymru hefyd cydnabuwyd Prosiect Inspire KIM. Mae KIM
yn fudiad sector gwirfoddol o Sir y Fflint sy’n cynnig gweithgareddau grwp,
hyfforddiant a chymorth i bobl sy’n cael anhawster â’u hiechyd meddwl i gael
gwaith.
Cafodd Prosiect Inspire KIM wobr arbennig gan fod y gwobrau’n ddeg oed. Roedd
y beirniaid wedi’u plesio gan y ffaith fod y prosiect yn cael ei arwain yn
llawn gan y cleientiaid, ei fod yn canolbwyntio ar les a chynhwysiant
cymdeithasol pobl â phroblemau iechyd meddwl ac addysg a hyfforddiant am iechyd
meddwl.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu cyllid i KIM a hoffai longyfarch y mudiad am
y gydnabyddiaeth arbennig hon hefyd.
Meddai Annie Donovan, Cyd Brif Weithredwr KIM Inspire: “Rydym yn falch dros ben
o gael ein cydnabod gan y Cyngor Gofal ac yn arbennig am y wobr fawreddog hon.
Diolch o galon i bawb sy’n gysylltiedig â KIM am eu holl gymorth a’u gwaith
caled ac edrychwn ymlaen at fwy o ddatblygiadau yn y dyfodol”.
Meddai’r Cynghorydd Chris Jones, Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau
Cymdeithasol:
“Rwyf mor falch o’r cyflawniadau hyn i Sir y Fflint. Roedd cyrraedd y rownd
derfynol a chael cydnabyddiaeth i’n gwasanaethau ar lefel genedlaethol yn wych
ynddo’i hun, ond wrth gwrs, mae ennill yn rhoi boddhad mawr.
“Da iawn i bawb sy’n gysylltiedig ac sy’n gweithio mor galed i gefnogi
teuluoedd Sir y Fflint, hefyd diolch o galon i rieni, plant a staff Ysgol
Merllyn. Mae hwn yn gynllun gwych ac mae’r wobr hon yn haeddiannol iawn.
“Llongyfarchiadau hefyd i KIM, am eu cyflawniad arbennig.”
Gweler manylion llawn am y gwobrau ar wefan
www.ccwales.org.uk
Llun
Flintshire_Early_Years_room.jpg