Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Olwen yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed
Published: 08/07/2015
Ar 30 Mehefin, yng Nghartref Preswyl Croes Atti yn y Fflint, fe ddathlodd Olwen
Ward (Bundred gynt) ei phen-blwydd yn 100 oed.
Olwen oedd ail blentyn William ac Annie Bundred. Cafodd ei geni yn Ivy Bank ar
Gadlys Lane, Bagillt ac roedd ganddi frawd hyn o’r enw John, brawd iau o’r enw
Ted a hanner chwaer hyn o’r enw Gwen. Symudodd y teulu i Fryn Merllyn ac yna i
Frynffynnon, lle cafodd ei magu.
Ar ôl mynychu Ysgol Ramadeg Treffynnon, a datblygu ei medrau cerddorol fel
cantores a feiolinydd, hyfforddodd Olwen fel nyrs yn Lerpwl cyn dychwelyd adref
i gefnogi ei rhieni. Bu iddi ddychwelyd i nyrsio yn ddiweddarach yn Ysbyty Bach
y Fflint.
Yn 1941 priododd Olwen â Charles Ward, trydanwr a mab prif beiriannydd Glofa
Llys Bedydd, a ganwyd eu plentyn cyntaf, Philip, y flwyddyn ganlynol. Ychydig
flynyddoedd yn ddiweddarach ganwyd eu merched, Alison (1946) a Ruth (1953).
Yn 1953 symudodd y teulu i Fryn Gwyn, cartref teulu Charles ym Magillt, a bu
iddi fyw yno tan farwolaeth Charles yn 2013. Yn dilyn marwolaeth ei gwr,
symudodd i Groes Atti.
Drwy gydol ei bywyd mae Olwen wedi bod yn gefnogwr ffyddlon yr eglwys. I
ddechrau roedd hi’n mynychu Eglwys Fethodistaidd Cymru ller oedd ei thad yn
flaenor ond symudodd yn ddiweddarach ir Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Roedd
ei chredoau yn meithrin ysbryd cymunedol cryf iawn ynddi a oedd yn adlewyrchu
natur ei mam, a sefydlodd y Clinig Gofal Plant ym Magillt yn y 1940au. Roedd
Olwen yn aelod gweithgar o’r clinig drwy gydol y 1950au. Mae Olwen wastad wedi
bod yn berson di-lol ond roedd hi hefyd yn barod iawn i ymateb i anghenion
unrhyw unigolyn yn y gymuned. Roedd hi hefyd yn aelod gweithgar o Undeb y Mamau
a’r Cyngor Plwyf Eglwysig, ac am flynyddoedd lawer hi oedd Trefnydd Esgobaethol
Dydd Gweddi Byd-Eang y Merched.
Daeth ei theulu ynghyd ar ddiwrnod ei phen-blwydd i ddathlu.
Caption for image 7293