Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Archwilio diogelwch cofebion
Published: 17/07/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwrw ymlaen â’r gwaith o archwilio diogelwch
cofebion, a’r cam nesaf fydd archwilio’r mynwentydd a ganlyn, a hynny yn ystod
mis Gorffennaf.
· Penarlâg Rhifau 1 a 2
· Treuddyn
· Maes Glas Rhif 2
· Ffordd Llaneurgain, y Fflint
Caiff pob cofeb yn y mynwentydd hyn eu harchwilio drwy ddilyn yr un drefn.
Staff profiadol fydd yn cynnal yr archwiliadau a byddant wedi cwblhau
hyfforddiant archwilio diogelwch ac yn gymwys i ymgymryd â’r gwaith sensitif
hwn.
Os gwelir nad yw cofeb yn ddiogel ond nad yw’n peryglu neb ar hyn o bryd, bydd
y Cyngor yn ceisio cysylltu â pherchennog cofrestredig y bedd cyn trefnu i
gynnal y garreg dros dro o’r cefn. Caiff hysbysiad ei osod ar y garreg hefyd yn
dweud wrth y teulu nad yw’r Awdurdod wedi medru cysylltu â nhw, yn esbonio
beth sydd wedi digwydd ac yn nodi enw cyswllt.
Os gwelir bod cofeb yn rhy beryglus i’w gadael heb ei chynnal dros dro, caiff
ei gosod ar ei gwastad ar flociau pren, caiff hysbysiad ei osod arni a, bydd yr
Awdurdod yn ceisio cysylltu â’r teulu.
Mae’n bwysig bod y Cyngor yn cwblhau’r gwaith hwn er mwyn diogelu pawb sy’n
ymweld â mynwentydd neu’n gweithio ynddynt. Hoffem sicrhau teuluoedd fod y
Cyngor yn ymwybodol iawn o’u teimladau ac y caiff y gwaith ei gwblhau mewn modd
parchus iawn.
Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen diogelu cerrig beddi, ffoniwch y
Gwasanaethau Profedigaeth ar 01352 703360 neu 703361 neu 703362.