Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Achrediad cenedlaethol ar gyfer Archifdy Sir y Fflint
Published: 29/07/2015
Mae Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth Ken Skates wedi cyflwyno Archifdy Sir y Fflint
gydai Achrediad Gwasanaeth Archifau. Dymar gwasanaeth archifau cyntaf yng
Ngogledd Cymru i gyflawni’r safon proffesiynol nodedig hwn.
Mae Gwasanaethau Archifau Achrededig yn sicrhau’r casgliad tymor hir, cadwraeth
a hygyrchedd ein treftadaeth archif.
Achrediad yw’r safon ansawdd newydd y DU syn cydnabod perfformiad da ym mhob
maes o ddarparu gwasanaeth archifau. Mae cyflawni statws achrededig yn dangos
bod Archifdy Sir y Fflint wedi bodloni safonau cenedlaethol a ddiffiniwyd yn
glir mewn perthynas â rheolaeth a darparu adnoddau ar ofalu am ei chasgliadau
unigryw ar hyn y maer gwasanaeth yn ei gynnig iw holl ystod o ddefnyddwyr.
Maer Archifdy wedi darparu gwasanaeth archifau i Sir y Fflint ers y 1950au ac
mae nid yn unig yn cadw archifau’r Cyngor Sir ond hefyd archifau busnesau
lleol, eglwysi, ysgolion, ystadau, a llawer mwy. Roedd yn un or archifdai
cynharaf i’w sefydlu yng Nghymru ac mae bob amser wedi’i nodi am ansawdd ei
wasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
Rydym yn falch iawn i fod y gwasanaeth archifau cyntaf yng Ngogledd Cymru i
ennill statws achrededig. Ar adeg o newid mawr mewn llywodraeth leol rydym yn
falch o allu sefyll i fyny a chael ein cyfrif fel bod yn cynnal ansawdd ac
ymrwymiad ir gwasanaeth a gynigwn i Sir y Fflint ac i hiliogaeth.
Nododd aseswyr yr Achrediad Gwasanaeth Archifau bod perfformiad Archifdy Sir y
Fflint yn dangos darpariaeth gwasanaeth cryf ym mhob maes. Wedi’u neilltuo yn
arbennig ar gyfer canmoliaeth oedd: ymrwymiad y gwasanaeth i gyflawni a chadw
Achrediad yn y tymor hir; y defnydd effeithiol ac wedi’i gynllunion dda o
wirfoddolwyr i fwydo i mewn i ddatblygu gwasanaethau a chofnod rhagorol y
gwasanaeth mewn cadwraeth, cefnogi hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
ehangach a gwneud gwelliannau rhanbarthol yn bosibl.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth Ken Skates:
Llongyfarchiadau i Archifdy Sir y Fflint ar fod y gwasanaeth archifau cyntaf
yng Ngogledd Cymru i ennill Achrediad Gwasanaeth Archifau. Mae staff y
gwasanaeth archifau yn gweithio’n eithriadol o galed i ddarparu safon uchel o
ofal ar gyfer casgliadau’r archif a gwasanaeth ardderchog iw defnyddwyr.
Dylent fod yn falch iawn or llwyddiant hwn.”
Mae manylion am yr Archifdy iw weld ar wefan y Cyngor yn
www.flintshire.gov.uk/archives
NODYN I OLYGYDDION
Yn y llun isod gyda’r Wobr Achredu mae (or chwith ir dde); Y Cyng. Aaron
Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros
Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates, Claire Harrington, Prif
Archifydd ar Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Hamdden.
_FBH9806.JPG
Yn y llun yn y llun isod (chwith ir dde):Colin Everett, Prif Weithredwr,
Claire Harrington, Prif Archifydd, y Cyng. Kevin Jones, Aelod y Cabinet gyda
chyfrifoldeb dros Hamdden, Neil Cockerton, Prif Swyddog Newid Sefydliadol,
Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Ken Skates, y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Cyng.
Clive Carver, aelod y ward ar gyfer Penarlâg.
_FBH9787.JPG