Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun perchentyaeth cost isel
Published: 19/08/2015
Mae cynllun rhannu ecwiti perchentyaeth cost isel Cyngor Sir y Fflint yn gyfle
gwych i bobl sengl, cyplau a theuluoedd i gymryd cam ar yr ysgol eiddo, gan
alluogi pobl sydd wediâu prisio allan or farchnad dai ar hyn o bryd i fod yn
berchen ar gartref eu hunain.
Maer cynllun a weinyddir ar ran y Cyngor gan Grwp Cynefin, yn seiliedig ar yr
egwyddor o rannu ecwiti ac yn helpu prynwyr tro cyntaf i fod yn berchen ar
gartrefi. Maer prynwr yn cyllido 70% o werth yr eiddo, syn golygu blaendal
llai a thaliadau morgais is. Nid ywr ecwiti yn fenthyciad sydd angen ei
ad-dalu ac nid oes unrhyw rhent yn daladwy. Yn syml, maen golygu bod gan y
Cyngor dÃl wediâi sicrhau yn erbyn yr eiddo i sicrhauâr benthyciad ecwiti o 30%.
Pan fydd y prynwr yn penderfynu gwerthur cartref ymlaen, byddant yn derbyn
70% or pris gwerthu ar y pryd ar cyngor yn derbyn 30%, syân eu galluogi i
ailgylchur arian neu ei ddefnyddio fel ecwiti ar gyfer cartref arall.
Roedd pum eiddo ar gael iw prynu o dan y cynllun hwn ar ddatblygiad Persimmon
yng Nghroes Atti yn Oakenholt ac maeâr prynwyr wedi symud i mewn iw cartrefi
newydd. Mae tri tÅ teras 2 lofft dal ar gael ar y datblygiad cyfagos gan
Anwyl a byddant yn barod ym mis Ionawr 2016.
Dywedodd Paul Young a roddodd ei enw i lawr yn ddiweddar i gadw cartref ar
gynllun datblygiad Anwyl yng Nghroes Atti:
âMaer cynllun rhannu ecwiti gan Gyngor Sir y Fflint trwy Grwp Cynefin yn
gynllun gwych ar gyfer person sengl fel fi. Heb y cynllun hwn ni fyddai bod yn
berchen ar gartref fy hun yn fforddiadwy.
âByddwn yn argymell y cynllun hwn i unrhyw un sydd eisiau gallu fforddio prynu
cartref eu hunain. Maer cynllun yn rhoir cyfle i bobl sydd eisiau rhoi cam ar
yr ysgol eiddo. Pob lwc i unrhyw un syn defnyddior cynllun hwn.
Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai:
âMaer cynllun yn rhoi cyfle i bobl i brynu cartref am bris fforddiadwy a
byddwn yn annog unrhyw un syn chwilio am eu heiddo cyntaf i ddarganfod mwy am
y cynllun
Meddai Gwenan Jones, Rheolwr Tai Fforddiadwy gyda Grwp Cynefin,
âMae eiddo rhannu ecwiti pellach ar gael ar hyn o bryd gan Anwyl - Cwrt Isaf
Oakenholt, David Wilson Homes - Wepre Green, Redrow Cei Connah - Rhostiroedd
Bwcle, Bloor Homes Parc -Jasmine, Broughton a Taylor Wimpey -Alyn Meadows Hope.
âRydym hefyd yn falch iawn fod tri or pum tÅ sydd ar gael yn natblygiad
Persimmon yng Nghroes Atti wediâu gwerthu i brynwyr gyda chysylltiad lleol i
Oakenholt a Fflint, gydar ddau brynwr arall gyda chysylltiadau lleol i
gymunedau cyfagos.
I gael rhagor o fanylion am y cynlluniau uchod neu i gofrestru diddordeb yn
natblygiadauâr dyfodol, cysylltwch à Grwp Cynefin ar 0300 111 2122, E-bost:
affordablehomes@grwpcynefin.org
Gwefan: www.grwpcynefin.org