Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arddangosfa o wasanaethau 2015
Published: 12/08/2015
Bydd arddangosfa o waith Timau Gwasanaethau Cefn Gwlad a Thwristiaeth Cyngor
Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn y sioe
sirol flynyddol ar y Grîn, Dinbych ddydd Iau, 20 Awst.
Archwilio tref a chefn gwlad fydd y thema ar gyfer arddangosfa ar y cyd y
cynghorau. Bydd arddangosiadau ac arddangosfeydd
yn cynnig cyngor a gwybodaeth am sut y gall preswylwyr ac ymwelwyr fwynhau’r
cefn gwlad hardd, pentrefi, hanes
a threftadaeth yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Bydd arddangosfeydd allanol yn cynnwys gwaith y Ceidwaid Cefn Gwlad gan
ddefnyddio gweithgareddau ac arddangosfeydd i helpu pob oedran
werthfawrogi a deall ein hamgylchedd gwledig gwych.
Bydd arddangosfeydd yn y babell fawr yn cynnwys Teithio Byw (Cymru) a
gwybodaeth am y cyfoeth o weithgareddau a lleoedd i
ymweld â nhw ar draws y ddwy sir. Bydd arddangosfa am Ardal o Harddwch Naturiol
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
hefyd gan ei bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni.
Bydd planhigfeydd Triffordd o Sir y Fflint yn arddangos y planhigion maent yn
eu tyfu.
Gall ymwelwyr ir arddangosfa roi cynnig ar raffl i ennill basged yn llawn o
gynnyrch lleol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Dymar seithfed flwyddyn y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir
Ddinbych ac eleni byddwn yn
dangos sut mae pob oedran yn gallu mwynhaur cyfoeth o atyniadau sydd ar gael
yn y ddwy sir.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE
“Mae’r ddau gyngor yn falch o weithio gydai gilydd a chefnogi’r sioe unwaith
eto, syn ddigwyddiad poblogaidd
a phwysig yn y calendr amaethyddol blynyddol.
Nodyn i olygyddion:
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch âr Tîm Cyfathrebu Corfforaethol ar 01352
702112.