Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ceisio barn am fap llwybr drafft Teithio Llesol
Published: 19/08/2015
Gofynnir am farn pobl am fenter genedlaethol newydd a fydd yn annog y cyhoedd i
wneud teithiau bob dydd byr ar droed neu ar feic yn hytrach na defnyddio cerbyd.
Bydd Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych yn lansio ymgynghoriad ar eu
Mapiau Llwybr Presennol Drafft Teithio Llesol yn Sioe Dinbych a’r Fflint ddydd
Iau, 20 Awst. Gwahoddir y cyhoedd i weld y Map a llenwi arolwg byr, a fydd
hefyd ar gael ar wefan y Cyngor, mewn llyfrgelloedd a swyddfeydd Sir y Fflint
yn Cysylltu.
Pasiwyd Deddf Teithio (Cymru) 2013 gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 1 Hydref
2013. Ei diben yw galluogi mwy o bobl i gymryd dewisiadau teithio llesol ar
gyfer teithiau byr, er enghraifft drwy gerdded neu feicio lle maen addas
iddynt wneud hynny, yn hytrach na defnyddio cludiant modur.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr
Amgylchedd:
“Maer Ddeddf Teithio Llesol y cyntaf o’i math yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i
ni wneud Cymru yn genedl teithio llesol.
“Maer Cyngor wedi mapio ei Lwybrau Teithio Llesol a bellach yn croesawu
adborth i helpu i lunio ein Map
Llwybr Presennol iw gyflwyno i Weinidogion Cymru yn y Flwyddyn Newydd.”
Dywedodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych dros
Briffyrdd:
“Mae’r sioe yn gyfle gwych i ni drafod ein cynlluniau gyda’n preswylwyr a rhoi
cyfle iddyn nhw fynegi barn. Bydd staff sydd yn gweithio ar y cynllun ar gael
ar faes y sioe ac mae digon o gyfle i bobl ddweud eu dweud a rhannu syniadau”.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 12 Tachwedd 2015.