Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canlyniadau TGAU 2015
Published: 20/08/2015
Bydd myfyrwyr TGAU ar draws Sir y Fflint yn awyddus i ddathlu heddiw, wrth i
ganlyniadau arholiadau cyhoeddus da gael eu cyhoeddi eto yn ysgolion y Sir.
Cyfanswm y ganran o bobl sydd wedi llwyddo i ennill graddau TGAU (A*-G) yng
Nghymru eleni yw 98.7%, sydd 0.2% yn uwch na’r llynedd. Gydar canlyniadau
gan Fwrdd Arholi Cymru (CBAC), mae’r gyfradd llwyddo ar gyfer myfyrwyr yn Sir y
Fflint yn 99.4%, gostyngiad bychan o 0.1% ar y canlyniadau yn y cyfnod hwn yn
2014.
Cyfran y graddau yn yr amrediad A* i C yn 2015 yw 66.6% ar draws Cymru, yr un
fath ag yn 2014. Maer graddau llwyddo uwch (A*- C) hyn ar draws Sir y Fflint
yn
68.9% or holl arholiadau cwrs llawn a gymerwyd gyda Bwrdd Arholi Cymru. Mae
hyn yn 2.3% yn uwch nag ar gyfer Cymru gyfan a 0.7% yn uwch na ffigur Sir y
Fflint yn yr un cyfnod y llynedd.
Mae cyfran y graddau A* ac A a gyflawnwyd gan fyfyrwyr Sir y Fflint gyda’r
Bwrdd Cymreig yn 2015 yn 19.4%, sydd 2.2% yn uwch na’r un cyfnod yn
2014. Ar draws Cymru gyfan mae’r ffigur hwn wedi gostwng ychydig i 19.2% yn
2015 oi gymharu â 19.4% yn 2014.
Mae’r cyfanswm o bynciau a gofrestrwyd gyda’r Bwrdd Cymreig gan fyfyrwyr Sir y
Fflint ar gyfer arholiadau’r haf 5% yn uwch na’r llynedd. Yn ogystal, mae
llawer o
fyfyrwyr Sir y Fflint yn sefyll arholiadau yn gynt yn y flwyddyn nawr yn
hytrach na chyfnod yr haf bob tro. Dylai canlyniadau Sir y Fflint wella
ymhellach pan ychwanegir canlyniadau’r ymgeiswyr a safodd eu harholiadau yn
gynnar at rai cyfnod yr haf. Er bod y rhan fwyaf or cofrestriadau pwnc gyda’r
Bwrdd Cymreig,
mae’r rhai sydd wedi sefyll arholiadau â byrddau yn Lloegr wedi gweld cynnydd
yn y gyfradd llwyddo ar draws y sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell:
“Ar ran Cyngor Sir y Fflint, fe hoffwn longyfarch ein disgyblion ar eu
canlyniadau TGAU. Unwaith eto, mae ein disgyblion wedi perfformion dda a
chyrraedd safonau uchel yn eu harholiadau allanol. Hoffwn ddiolch i’r holl
staff yn yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i alluogi i’r myfyrwyr lwyddo
ac i’r holl rieni a gofalwyr sydd wedi darparu cefnogaeth ac anogaeth iw plant.
Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn galluogi’r myfyrwyr i symud ymlaen
i gyrsiau addysg ôl-16 neu ddod o hyd i waith addas. Rydym yn dymuno pob
llwyddiant iddynt, pa bynnag gwrs y byddant yn ddewis ei astudio.”
Fe ychwanegodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Ian Budd:
“Mae’r Cyngor yn falch o longyfarch y myfyrwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr Sir
y Fflint am y canlyniadau TGAU da hyn. Maent yn ganlyniad i ymrwymiad a gwaith
caled ein myfyrwyr. Gall ein pobl ifanc symud ymlaen â hyder i Addysg Bellach
yn Sir y Fflint. Maer Cyngor yn llongyfarch ein myfyrwyr i gyd ar eu
llwyddiant.
Nodyn i olygyddion
Ar adeg ei gyhoeddi, mae’r wybodaeth a roddir yn seiliedig ar wybodaeth Bwrdd
CBAC yn unig. Rydym yn aros am fanylion gan ysgolion ynghylch y darlun
cyflawn. Unwaith y bydd y data hwn, gan gynnwys data gan fyrddau arholi a
leolir yn Lloegr ac arholiadau a safwyd yn fuan gan fyfyrwyr Sir y Fflint wedi
cael eu prosesu, sydd ddim ar gael yn ganolog i AALl Cymru, daw darlun cliriach
i’r amlwg. Mae’n bwysig nodi bod cyfran ystadegol berthnasol o gofrestriadau
TGAU Sir y Fflint trwy fyrddau Lloegr.