Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2015
Published: 10/09/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn cynnal Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni
ddydd Gwener 18 a dydd Sadwrn 19 Medi.
Maer digwyddiad glanhau blynyddol, a gydlynir gan Gyngor Sir y Fflint, Cyngor
Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ôl am ei 9fed
flwyddyn!
Am ddeuddydd, ar draws Gogledd Cymru a Swydd Gaer, bydd gwirfoddolwyr, grwpiau
cadwraeth a busnesau yn ymuno â gwasanaethaur cyngor a Chyfoeth Naturiol
Cymru. Bydd pawb syn cymryd rhan yn gweithion galed i glirio sbwriel yr afon
a sbwriel morol syn cael ei olchi i fyny ar hyd Afon Dyfrdwy, ac yn paentio a
thaclusor lleoedd arbennig ar hyd ei glannau ar arfordir, o fynyddoedd Cymru
i gynefin arfordirol aber afon Dyfrdwy.
Y llynedd, bu cannoedd o bobl yn cymryd rhan a chasglwyd cannoedd o fagiau o
sbwriel.
Yn Sir y Fflint, maer ymdrechion yn cael eu cydlynu gan wasanaeth Ceidwaid yr
Arfordir a Strydwedd y Cyngor. Bydd Ceidwaid yn cymryd y cyfle i weithio gyda
grwpiau cymunedol i blannu coed, bylbiau a helpu i adfer cynefin gwlyptiroedd
ar hyd arfordir y sir gyda gwirfoddolwyr cymunedol.
Cefnogir y digwyddiad gan lawer o grwpiau cymunedol a nifer o fusnesau, gan
gynnwys Airbus, Kingspan, ENI, a llawer mwy. Eleni, Tesco ywr cwmni diweddaraf
i ddangos eu cefnogaeth gydag 80 o aelodau o staff yn gwirfoddoli eu
gwasanaethau ar gyfer y glanhau.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr
Amgylchedd:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn o fod yn cynnal Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy
eleni. Maer digwyddiad wedi mynd yn fwy bob blwyddyn ers iddo gael ei sefydlu
yn gyntaf gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn 2007 gyda mwy a mwy o bobl,
grwpiau cymunedol a busnesau yn cymryd rhan.
“Maen wirioneddol wych gweld cynifer sydd am helpu i ofalu am ein hamgylchedd
lleol a’i ddiogelu. Maer gwirfoddolwyr yn chwarae rhan enfawr wrth helpu i
sicrhau bod ein harfordir yn cael ei gadwn lân i ymwelwyr a bywyd gwyllt. Mae
amser o hyd i gymryd rhan os hoffech ddod draw ac ymuno â ni.”
Dywedodd Uwch Geidwad yng Nghyngor Sir y Fflint, Mike Taylor:
“Rydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy dros y
naw mlynedd diwethaf a’i wneud yn gymaint o lwyddiant. Mae wedi tyfu i fod yn
ddigwyddiad trawsffiniol pwysig syn cwmpasu milltiroedd o’r arfordir o Dalacre
i Gaer a Llangollen. Mae gwir ymdeimlad o falchder cymunedol, gyda
gwirfoddolwyr nid yn unig yn gweithio i lanhaur afon, ond hefyd yn plannu coed
a bylbiau a phaentio i wellar amgylchedd ar hyd y glannau.”
Cysylltwch âr Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah ar 01352
703900 i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir yn Sir y Fflint.
Nodyn i olygyddion
Bydd Brecwast Lansio Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni, a noddir gan Airbus, yn
digwydd yn Chocs Away Diner ym Maes Awyr Penarlâg ddydd Gwener 18 Medi. Mae
croeso i’r wasg fod yn bresennol rhwng 7.30am a 9am i gael cyfleoedd i dynnu
lluniau a gwrando ar areithiau.
Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007.
Dechreuodd y syniad gyntaf ar draeth Talacre pan benderfynodd Gwasanaeth Cefn
Gwlad Sir y Fflint a’r partneriaid BHP Billiton, Presthaven Sands, Clwb Traeth
Talacre, y gymuned leol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnal arolwg or traeth i
helpu i dynnu sylw at sbwriel morol ar niwed y gall ei achosi. Ers hynny, mae
Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Cilgwri a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn
ogystal â llawer o wirfoddolwyr a busnesau lleol eraill - gan gynnwys Airbus,
Kingspan a Kimberley Clark - hefyd wedi cymryd rhan ac maer digwyddiad wedi
mynd o nerth i nerth.
Mae miloedd o fagiau o sbwriel wedi eu casglu gan gannoedd o wirfoddolwyr, ac
mae digwyddiad eleni yn argoeli i fod yn fwy ac yn well nag erioed!