Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
? Cynlluniau canol tref Bwcle
Published: 25/11/2020
Y llynedd, ffurfiodd Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Bwcle weithgor i edrych ar addasiadau posib i’r ffyrdd yng nghanol y dref.
Mae’r grwp wedi llwyddo i ddiogelu cyllid gan Lywodraeth Cymru i ehangu’r isadeiledd Teithio Llesol cyfredol o fewn Bwcle, trwy wella’r cysylltiadau beicio o ac i ysgolion o fewn y dref.
Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys lledu B5127 Mill Lane er mwyn galluogi i draffig deithio’n rhwydd, rhoi arwyddion traffig ar gyffordd Mill Lane/Hawkesbury Road a lledu’r llwybrau i Ysgol Uwchradd Elfed ac Ysgolion Cynradd Southdown, Westwood a Mountain Lane.
Mae gwybodaeth, gan gynnwys darluniau i’r cynllun, ar gael ar-lein a gallwch eu gweld ar wefan Cyngor Sir y Fflint o ddydd Mercher, 25 Tachwedd, o fewn yr adran ymgynghoriad. Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i wneud sylw ar y cynigion.