Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dysgu trwy hamdden
Published: 09/12/2020
|
Dysgu trwy hamdden |
Mae rhaglen ‘dysgu trwy hamdden’ Aura yn cynnig darpariaeth addysgol i ddisgyblion 14-16 oed ar draws Sir y Fflint sy’n ei chael yn anodd i ymgysylltu â’r llwybrau mwy traddodiadol at gymwysterau. Mae gan lawer o’r unigolion sydd wedi’u hatgyfeirio atom gofnodion presenoldeb gwael neu mewn rhai achosion, mae’n bosibl eu bod wedi’u gwahardd o’r ysgol.
Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Aura Cymru a Chyngor Sir y Fflint. Mae bellach yn ei hail flwyddyn ac mae cohort newydd o 10 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar y rhaglen.
Mae dysgu trwy hamdden yn cynnig darpariaeth amgen broffesiynol sy’n darparu cymysgedd o gymwysterau chwaraeon a gaiff eu cydnabod yn genedlaethol, profiad gwaith a chyfleoedd arweinyddiaeth a gaiff eu darparu gan diwtoriaid cymwys Aura, Gary Dixon a Dylan Roberts.
Meddai’r Cyng. Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
“Mae hon yn rhaglen wych, mae’n helpu pobl ifanc i ganfod eu lle yn y byd a meithrin eu hyder, hunan-barch a sgiliau cymdeithasol wrth gael hwyl.
“Mae dysgu trwy hamdden yn un o nifer o raglenni sy’n cael eu rhedeg trwy dîm Cynhwysiant a Datblygiad Cyngor Sir y Fflint, sy’n gwneud gwaith gwych o ran ymgysylltu â phobl ifanc anodd eu cyrraedd.”
Dywedodd Steve Thomas, rheolwr rhaglen Darpariaeth Amgen Aura:
“Yn ogystal â’r agwedd chwaraeon, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth hyfforddi a mentora i’n dysgwyr ac yn darparu cymwysterau a gweithdai ar amrywiaeth eang o bynciau personol, cymdeithasol, iechyd ac economaidd trwy gysylltiadau cydweithredol â nifer o bartneriaid.
“O ganlyniad i lwyddiant y rhaglen, rydym wedi cael cydnabyddiaeth gadarnhaol yn ddiweddar gan uwch reolwyr ac Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint. Eleni, mae gennym gohort newydd o 10 o ddisgyblion wedi’u cofrestru ar y rhaglen chwaraeon (sy’n cael ei chynnal ym Mhafiliwn Jade Jones) ac rydym yn gyffrous i ymestyn ein cynnig darpariaeth amgen i redeg rhaglen ychwanegol i gefnogi tîm sba a harddwch Aura, felly wrth i’n henw da gynyddu, gobeithio y bydd ein twf i rannau eraill o’r busnes yn cynyddu hefyd.”