Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofrestrwch i bleidleisio

Published: 21/09/2015

Mae pobl sydd heb ymateb i ffurflen yn gofyn iddynt wirio a yw’r wybodaeth sy’n ymddangos ar y gofrestr etholiadol gyferbyn â’u cyfeiriad yn gywir yn cael eu hannog i wneud hynny nawr. Bydd etholiadau pwysig Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ym mis Mai 2016 ac mae hwn yn gyfle cynnar i breswylwyr sicrhau y byddant yn gallu cymryd rhan a defnyddio’u pleidlais. Meddai Colin Everett, Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Sir y Fflint: “Rhaid i unrhyw un sydd am bleidleisio gofrestru. I ofalu’ch bod yn cael dweud eich dweud yn yr etholiadau’r flwyddyn nesaf, gwiriwch y ffurflen, os nad yw’ch manylion wedi newid gallwch ymateb drwy radffôn, rhyngrwyd neu neges destun. Os yw’ch manylion wedi newid gallwch ddiweddaru’r wybodaeth hon drwy wefan www.registerbyinternet.com/flintshire. Fel arall gallwch bostio’r ffurflen yn ôl atom. Os na fyddwch wedi ymateb yn ystod y pythefnos nesaf mae’n bosibl y bydd canfasiwr o’r Cyngor yn ymweld â chi i gasglu’r wybodaeth hon.” Dylai unrhyw un sydd â chwestiynau gysylltu â’r tîm etholiadau ar 01352 702412 neu trwy e-bost register@flintshire.gov.uk