Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Economi Gylchol yn dod i Fwcle
Published: 11/01/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint a Refurbs Flintshire yn falch o gyhoeddi eu bod wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais ar y cyd i’r ‘Gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21’ i ddod a chyllid i Fwcle ar gyfer prosiect newydd a chyffrous yng nghanol y dref.
Bydd y prosiect hwn yn darparu Canolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio newydd gyda chaffi cymunedol yng nghanol tref Bwcle yn hen adeilad banc HSBC. Bydd y cyfleuster yn hybu cydlyniant cymunedol trwy fentrau atgyweirio ac ailddefnyddio, wrth ddarparu cyfle i gefnogi adfywio un o ganol trefi Sir y Fflint.
Nod hirdymor y prosiect yw hyrwyddo addysg a newid mewn ymddygiad o ran gwastraff a mentrau ailgylchu, gan ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth ar gyfer pobl leol, creu lleoliad deniadol a diddorol yng nghanol y dref, wrth gefnogi cynllun adfywio strategol y dref a bwysicaf oll, creu lleoliad i’r gymuned ddod ynghyd.
Yn ganolbwynt i’r cyfan mae lletygarwch yr amgylchedd caffi ymlaciol, a bydd y gwasanaeth dechreuol a gynigir yn y cyfleuster yn cynnwys:
- Darparu gwasanaeth atgyweirio ar gyfer eitemau bychain y ty.
- Darparu arddangosiadau ar dechnegau uwchgylchu/atgyweirio sylfaenol a ellir eu gwneud gartref.
- Darparu gwybodaeth ar sut i gyfrannu eitemau diangen yn y ty a all gael eu hadnewyddu neu eu hailgylchu.
- Cynnal gweithdai a gweithgareddau gwirfoddoli i greu darnau a ellir eu gwerthu ar gyfer y caffi o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu neu eitemau diangen.
- Arddangos eitemau i’w prynu wedi’u cynhyrchu o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
Cafodd y cynnig llwyddiannus ei hybu gan Weithgor Canol Tref Bwcle sy’n cynrychioli Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Bwcle. Mae’r grwp wedi cael ei sefydlu i ddenu buddsoddiad ac archwilio cyfleoedd newydd i gefnogi adfywiad canol y dref.