Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diffoddwch cyn gyrru
Published: 22/09/2015
Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch i godi
ymwybyddiaeth ymysg cerbydwyr o’r peryglon sy’n gysylltiedig â gyrwyr sy’n
torri’r gyfraith drwy ffonio neu decstio y tu ôl i’r llyw.
Atgoffir cerbydwyr bod defnyddio ffôn symudol â llaw wrth yrru yn
anghyfreithlon – bydded hynny i wneud galwad ffôn, dilyn map, darllen neges
destun neu wirio cyfryngau cymdeithasol. Mae’r gyfraith yn berthnasol hyd yn
oed pan fyddwch yn aros wrth oleuadau traffig, mewn ciw o draffig, neu mewn
maes parcio.
Gellir ond defnyddio ffôn symudol â llaw os yw’r cerbyd wedi parcio’n ddiogel
neu i wneud galwad frys 999 (neu 112) pan nad yw’n ddiogel neu’n ymarferol i
stopio’r cerbyd.
Gall troseddwyr gael rhybudd cosb benodedig, a allai arwain at ddirwy o £100 a
3 phwynt ar eu trwyddedau. Bydd unrhyw un sy’n cael 6 pwynt yn ystod y ddwy
flynedd ar ôl pasio eu prawf gyrru, yn colli eu trwydded.
Gallai’r achos hefyd fynd i’r llys gyda’r posibilrwydd o gael eich gwahardd
rhag gyrru a dirwy uchaf o £1,000. Gallai gyrwyr bysiau neu gerbydau nwyddau
gael dirwy uchaf o £2,500.
Gellir defnyddio ffôn llawrydd wrth yrru ond gall cerbydwyr gael eu herlyn os
nad ydynt yn rheoli eu cerbyd. Mae’r cosbau yr un fath â chael eich dal yn
defnyddio ffôn â llaw.
Gall cosbau am yrru’n ddiofal neu’n beryglus wrth ddefnyddio ffôn â llaw neu
ffôn llawrydd gynnwys gael eich gwahardd, dirwy fawr a hyd at ddwy flynedd o
garchar.
Meddai Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint, Steve Jones: “Mae
hon yn ymgyrch bwysig a allai achub bywydau. Mae holl bartneriaid Diogelwch
Ffyrdd Cymru’n cydweithio i fynd i’r afael â’r broblem a byddwn yn parhau i
wthio’r neges fod raid diffodd y ffôn cyn gyrru i ffwrdd.