Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dosbarth Meistr Chwilota am Fwyd
Published: 28/09/2015
Bydd trigolion Sir y Fflint yn cael y cyfle i chwilota am eu cinio mewn
Dosbarth Meistr Bwyd Coetir Gwyllt ym Mharc Gwepre, y mis nesaf.
Mae Tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint wedi
trefnur dosbarth meistr a arweinir gan y chwilotwr bwyd profiadol Matt
Normansell ar ddydd Sadwrn 17 Hydref rhwng 10.30am-4.00pm.
Bydd Matt yn arwain y grwp ar antur gan adnabod rhai or planhigion bwytadwy
syn tyfu’n helaeth o amgylch y lle ac mae prif gogyddion y wlad yn ceisio cael
hyd iddynt.
Dywedodd fod pobl yn mynychu am wahanol resymau. Mae rhai yn oroeswyr, mae rhai
eisiau bwyd maethlon naturiol, mae rhai eisiau bwyd am ddim, ac mae rhai yn
chwilfrydig.
Maer digwyddiad yn costio £30 ac mae angen cadw lle.
Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â Beth Ditson, Swyddog
Digwyddiadau Cymunedol Sir y Fflint ar 07786 523601 neu e-bostiwch
beth.ditson@flintshire.gov.uk.
Gwybodaeth am Matt Normansell, cyrsiau chwilota a ryseitiau bwyd gwyllt ar gael
yn www.edenwildfood.co.uk a gellir ei ddilyn ar Twitter
https://twitter.com/edenwildfood.