Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy
Published: 28/09/2015
Mae cannoedd o fagiau o sbwriel wedi eu casglu gan wirfoddolwyr sydd hefyd wedi
plannu bylbiau a rhoi wyneb newydd i lwybrau yn ystod digwyddiad blynyddol
eleni o Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy.
Cymerodd tua 400 o wirfoddolwyr o ysgolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a
busnesau ran yn y digwyddiad deuddydd ar 18 a 19 Medi i lanhau a gwella
dalgylch yr Afon Dyfrdwy.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Gyngor Sir y Fflint gan gynnwys asiantaethau
partner ar draws Caer, Gogledd Cymru a Chilgwri yn cynnwys Gorllewin Caer a
Chaer, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyda chefnogaeth
gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol Cymru.
Dyma rai enghreifftiau or gwaith gwych a wnaed yn ystod y ddau ddiwrnod:
Ymunodd ceidwaid cefn gwlad Sir y Fflint gyda gwirfoddolwyr o gymdeithas
Rhandiroedd Lôn y Felin a staff Groundwork i glirior llanast a dipiwyd yn
anghyfreithlon yn Nant Gwepra yng Nghei Connah.
Casglwyd deuddeg o deiars ceir, oergell a rhewgell, hen ffensys gwifren, berfa,
taflenni metel wedi rhydu a dros 46 o fagiau o sbwriel.
Dywedodd Karen Rippin, Warden Cefn Gwlad: “Gwirfoddolwr ieuengaf y grwp oedd
plentyn 6 oed a’r hynaf yn 84 oed. Roedd yn bleser gweithio gyda grwp mor
amrywiol o bobl sydd yn amlwg iawn eisiau rhannu eu brwdfrydedd dros yr
amgylchedd. Rydym yn diolch hefyd i Stephen Parkinson o Taclo Tipio Cymru a
noddodd y sgip ac i Judith Wright o Cadwch Gymrun Daclus a ddarparodd menig,
bagiau sbwriel a chodwyr sbwriel.”
Gweithiodd gwirfoddolwyr o Tesco gyda cheidwaid i lenwi dau sgip a hanner a
chasglu 52 o fagiau llawn sbwriel o ardal Lôn Cemeg ym Mhentre, Glannau Dyfrdwy.
Mae staff o Airbus a myfyrwyr o Goleg Llysfasi wedi gweithion ddygn i glirio
sbwriel o ddwy ochr yr afon ym mhont droed Saltney Ferry.
Mae gwirfoddolwyr o Sustrans wedi casglu 10 bag o sbwriel a 5 bag o ganiau o
Wepre tra bod staff a myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi gweithion
galed yn casglu sbwriel o ardal The Rock yn y dref.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
yr Amgylchedd, Roedd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni yn llwyddiant ysgubol a
hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith caled o wneud y cyfan yn
bosib. Maen enghraifft go iawn o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus ac
rwyf wrth fy modd o fod yn rhan o’r holl beth. Roedd yn ymdrech wych gan bawb a
gymerodd rhan.
Dechreuodd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy gyda digwyddiad lansio dros frecwast yn
Chocks Away Diner ym Maes Awyr Penarlâg a chyflwynwyd gwobrau i nifer o
sefydliadau am eu gwaith ymroddedig i warchod yr amgylchedd yn ystod y 12 mis
diwethaf.
Llongyfarchiadau ir enillwyr: Tata Shotton, Presthaven Sands ac Ysgol Uwchradd
Cei Connah a Martin Redhead.
Capsiwn- Gwirfoddolwyr o Gymdeithas Rhandiroedd Lôn y Felin a staff Groundwork
ar ôl eu gwaith o lanhau yn Nant Gwepra