Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lliw yn y Llyfrgell
Published: 29/09/2015
Cynhelir arddangosfa ysbrydoledig o bortreadau’r artist o Frychdyn, Clayton
Langford, yn yr oriel ar lawr uchaf Llyfrgell Bwcle drwy gydol mis Hydref.
Dyma’r bumed yn y gyfres o arddangosfeydd, Art in the Library – Lliw yn y
Llyfrgell, sy’n anelu at gynorthwyo artistiaid lleol, rhai ohonynt sydd erioedd
wedi arddangos eu gwaith o’r blaen, drwy roi llwyfan iddynt arddangos eu gwaith
i’r cyhoedd. Drwy gydol y flwyddyn bydd y rhaglen arddangos yn Llyfrgelloedd
Sir y fflint yn cynnwys peintiadau gan Angie Hoopert, Emma Jayne-Holmes a
Clayton Langford, brasluniau gan Scott Bongo a ffotograffau gan Ceridwen
Barkley.
Meddai Clayton am ei waith: “Rwy’n artist aml-gyfryngau o Frychdyn, Sir y
Fflint. Rwy’n mwynhau archwilio a gweithio gydag amryw o wahanol gyfryngau gan
gynnwys pensil graffit, inc, paent acrylic a dyfrlliw. Fel artist portreadau,
rwy’n dwyn fy ysbrydoliaeth o fy angerdd tuag at gerddoriaeth o amryw o genres.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg:
Rwy’n falch fod tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau a gwasanaeth
Llyfrgelloedd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein doniau lleol - gan
arddangos eu gwaith a chynorthwyo ein hartistiaid fel busnesau.”
Cynhelir arddangosfa breifat o waith Clayton am 5.30pm ddydd Iau 1 Hydref a
chaiff ei waith ei arddangos drwy gydol mis Hydref.
Os hoffai unrhyw wneuthurwyr, artistiaid a chrefftwyr arddangos eu gwaith fel
rhan o fenter Lliw yn y Llyfrgell – Art in the Library’ gallant e-bostio
gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk gyda thri llun o’u gwaith a datganiad byr am
eu harferion celf neu grefft.
Lluniau Clayton Langford.docx