Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Theatr Clwyd
Published: 09/10/2015
Mae Theatr Clwyd yn anelu at fod yn gyrchfan ddiwylliannol or radd flaenaf ac
yn symbol o arloesi ar draws y celfyddydau creadigol yng Nghymru, y DU a thu
hwnt.
Mewn adroddiad diweddaru ar gynllun busnes y theatr, dywedodd y Cyfarwyddwr
Artistig newydd, Tamara Harvey, ei bod yn ymroddedig i ehangur rhaglen
artistig, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd ac ymestyn cysylltiadau lleol y
theatr er mwyn sicrhau ei bod yn ganolbwynt celfyddydol hanfodol a bywiog wrth
wraidd y gymuned.
Yn yr adroddiad a fydd yn mynd gerbron Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar 13
Hydref, mae Tamara Harvey yn dweud bod y theatr ar y trywydd iawn i gyflawni
arbedion o £234,000 ar gyfer 2015/16 o ganlyniad i lai o gyllid, ac mae
cynlluniau cyffrous ar waith i arallgyfeirio ei chynnig i ddod âr celfyddydau
at fwy o bobl ac i gynhyrchu mwy o incwm.
Mae cynigion yn cynnwys cynnig ystod ehangach o waith fel rhan or rhaglen
fewnol, i gynnwys gwaith ysgrifennu newydd,
theatr gerddorol, premieres rhanbarthol, gwaith Cymraeg a chynyrchiadau ar y
cyd, yn ogystal â diwygiadau o waith clasurol.
Fel rhan o nod y theatr i ddatblygu cysylltiadau cymunedol gydag ystod ehangach
o bobl, mae digwyddiad Drysau Agored yn cael ei gynnal ar 31 Hydref sy’n
cynnwys digwyddiadau am ddim ar cyfle ir cyhoedd archwilio pob maes or
theatr, gan gynnwys y cwpwrdd dillad, celfi, ystafelloedd ymarfer a thu ôl ir
llwyfan. Mae cynlluniau hefyd ar waith i greu llawr sglefrio drws nesaf i’r
theatr dros gyfnod y Nadolig er mwyn denu mwy o ymwelwyr.
Maer strategaeth fusnes yn cynnwys canolbwyntio mwy ar waith ar gyfer pobl
ifanc a gyda phobl ifanc, a chynlluniau ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau
newydd yn ystod y dydd i apelio at y gymuned ehangach.
Bydd y theatr yn ceisio creu cydweithrediadau a phartneriaethau newydd yn lleol
ac yn genedlaethol ar draws pob agwedd ar ei gwaith. Mae cydweithrediadau syn
cael eu harchwilio yn cynnwys gwaith gyda theatrau yng Nghymru a ledled y DU.
Ceir hefyd ymrwymiad or newydd i waith ysgrifennu newydd, gydag awydd i osod
Theatr Clwyd wrth wraidd gwaith ysgrifennu newydd yn y wlad.
Yn yr adroddiad, dywedodd Tamara Harvey: “Rydym yn ymdrechu i fod yn ganolfan
gelfyddydau hollbwysig a fywiog wrth wraidd ein
cymuned ac yn gartref creadigol i artistiaid o Gymru a thu hwnt, lle bydd
gwaith newydd yn cael ei greu a ffyrdd newydd o weithio yn cael eu harchwilio.”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton: “Maer cyngor yn falch o weld y
cynnydd syn cael ei wneud gydar cynllun busnes ar arbedion effeithlonrwydd a
gyflawnir, yn yr hyn syn hinsawdd ariannol anodd iawn.
“Rydym yn falch iawn o gael y cyfarwyddwr artistig newydd gyda ni ac yn edrych
ymlaen at ei gwaith i wella atyniad masnachol y theatr a chynyddu mynediad ir
gymuned leol.”