Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghori ar Orchmynion Traffig
Published: 09/10/2015
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar y ffordd y maen
ymgynghori âr gymuned cyn cyflwyno mesurau arafu traffig.
Os cymeradwyir y cynigion, bydd yr awdurdod yn defnyddior cynghorau cymuned i
ymgymryd âr broses ymgynghori ynghylch cyflwyno mesurau arafu traffig a
mesurau diogelwch ar y ffyrdd.
Bydd y cynghorau cymuned yn casglu barn y gymuned ehangach ac yn trafod â’r
awdurdod beth yw’r opsiwn gorau y cytunwyd arno.
Dywedodd Steve Jones, Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant)
y gall y broses hon fod yn gymhleth a chymryd llawer o amser, ac mewn llawer o
achosion, gall fod yn anodd bodloni dewisiadau trigolion unigol tra’n diwallu
dyletswydd statudol y cyngor i leihau nifer y damweiniau ar ffyrdd Sir y
Fflint.
Dywedodd: “Gan fwyaf, caiff mesurau arafu traffig eu hariannu gan Lywodraeth
Cymru a rhaid eu cwblhau o fewn y flwyddyn ariannol y cafodd yr arian ei
ddyrannu. Os bydd sefyllfan codi lle mae cefnogaeth gyhoeddus syn gwrthdaro
yn bodoli, gallair broses ymgynghori ffurfiol achosi oedi cyn gweithredu’r
cynllun, neu mewn rhai achosion, gallai beryglu ei gyflwyno’n gyfan gwbl”.
Er mwyn gwneud y broses ymgynghori â’r cyhoedd yn esmwyth a syml, a sicrhau bod
terfynau amser cyllid yn cael eu diwallu, yn y dyfodol cynigir bod cyngor
cymuned yr ardal yn casglu ac yn cynrychioli barn y trigolion lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge:
“Bydd y cynigion newydd yn sicrhau bod y cyngor cymuned sydd yn cynrychiolir
gymuned leol yn cymryd rhan fwy gweithgar wrth benderfynu ar natur y cynllun
arafu traffig a fydd yn cael eu gweithredu.”
Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yn y Cabinet ar 13 Hydref.