Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith yn Dechrau ar Lwybr Troed Newydd
Published: 09/10/2015
Mae gwaith wedi dechrau ar lwybr newydd i wella diogelwch ger ysgol.
Clustnodwyd y gwaith gan Gyngor Sir y Fflint ar Bryn Road, Bryn Y Baal, fel
prif flaenoriaeth, gan sicrhau cyllid o £247,000
gan Lywodraeth Cymru ar ôl ymgyrch i wella diogelwch ger Ysgol Uwchradd Argoed.
Cyflwynodd Emma Pryce, disgybl, ddeiseb ir Cyngor yn ymgyrchu am lwybr troed
ar y ffordd brysur, er mwyn
gwneud yr ardal yn fwy diogel i ddisgyblion gerdded ir ysgol.
Maer gwaith, syn cynnwys llwybr troed a chroesfan sebra newydd, yn cael ei
ariannu drwyr Grant Llwybrau mwy Diogel mewn
Cymunedau, a bydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd.
Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy
Arweinydd:
“Rwyn falch iawn bod y Cyngor yn gallu sicrhau arian ar gyfer y gwelliannau
hyn. Caiff y llwybr hwn ei ddefnyddio gan ddisgyblion yr ysgol
a thrigolion yn ddyddiol, a bydd y llwybr troed a chroesfan sebra newydd yn
helpu i wella diogelwch i bawb.”