Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Age Positive
Published: 15/10/2015
Bu tua 40 o bobl yn mwynhau hel atgofion yn Archifdy Cyngor Sir y Fflint fel
rhan o ddigwyddiad ‘Age Positive’.
Yn ystod y digwyddiad ‘Beatnik or Hippy’ aeth ymwelwyr ar siwrnai hiraethus i’r
50au a’r 60au gydag arteffactau a cherddoriaeth i’w hatgoffa sut le oedd Sir y
Fflint yn y cyfnod hwnnw.
Defnyddiwyd ffotograffau a phapurau newydd o’r archifau a chasgliad o ddillad
hyfryd, llyfrau, gemau a gwrthrychau o’r cartref o’r amueddfa i helpu pobl i
gofio’r oes a fu.
Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o wythnos Age Positive a mwynhaodd pawb a
fynychodd yn fawr iawn.
Meddai’r Aelod o’r Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell:
“Mae Wythnos Age Positive yn ddathliad blynyddol o’r hyn sy’n bositif am
heneiddio ac rwy’n falch iawn fod Archifdy Sir y Fflint wedi ei gefnogi drwy
gynnal y digwyddiad ardderchog hwn i drigolion lleol.”