Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Darlith Pennant yn Llyfrgell Treffynnon
Published: 14/10/2015
Bydd Llyfrgell a Chanolfan Dysgwyr Treffynnon yn cynnal Darlith Flynyddol
Pennant am y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg nos Iau 15 Hydref am 7.30pm.
Gwahoddwyd Dr Mary-Ann Constantine gan Gymdeithas Thomas Pennant i roi’r
ddarlith eleni dan y teitl ‘Merched Thomas Pennant’.
Mae Dr Mary-Ann Constantine yn Uwch Gymrawd ac Arweinydd Prosiect yng
Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ei gwaith ar
hyn o bryd yn canolbwyntio ar waith ysgrifennu teithio, y daith o amgylch Cymru
a gwaith ysgrifennu Thomas Pennant.
Pwrpas cymdeithas Pennant yw dathlu ei gyflawniadau a hyrwyddo astudiaethau
pellach o fywyd Thomas Pennant, sef awdur teithio a natur toreithiog a anwyd yn
1726 ac a oedd yn byw yn Chwitffordd, Sir y Fflint.
Cost y tocynnau yw £3 ac maent ar gael o’r llyfrgell. Mae nifer y lleoedd sydd
ar gael yn gyfyngedig felly fe’ch argymhellir yn gryf i brynu tocynnau o flaen
llaw. Noddir y digwyddiad gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir y Fflint a
Chymdeithas Thomas Pennant.
Am wybodaeth bellach ffoniwch Llyfrgell Treffynnon ar 01352 713157.