Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae pob llun yn adrodd stori
Published: 16/10/2015
Mae nifer o weithdai celf yn cael eu cynnal yn Sir y Fflint fel rhan o wyliau
celf y Darlun Mawr a Chelf i’r Teulu.
Yr Artistiaid Emma- Jayne Holmes ac Eleri Jones fydd yn arwain y gweithdai, a
drefnir gan Gyngor Sir y Fflint, a’r thema fydd ‘Mae pob llun yn adrodd stori’.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau darlunio a phaentio ym mhob sesiwn, a fydd yn
addas i bobl o bob oed a gallu.
Felly, beth am neilltuo lle yn un o’r digwyddiadau teuluol a rhyddhau’ch ysbryd
creadigol?
Dydd Llun 26 Hydref - 10am - 12 hanner dydd Llyfrgell Bwcle - ‘Mae pob llun yn
adrodd stori’ a 1.30 - 3.30pm arddangosfa o gasgliad yr amgueddfa.
Ffoniwch Lyfrgell Bwcle ar 01244 549210 neu e-bostiwch
buckley.library@flintshire.gov.uk
Dydd Mawrth 27 Hydref - 10am - 12 hanner dydd a 1.30-3.30pm ym Mharc Gwepra.
Dau weithdy teuluol ar y thema Ar Drywydd Stori drwy’r parc. Ffoniwch Barc
Gwepra ar 01352 703900 neu e-bostiwch countryside@flintshire.gov.uk
Dydd Mercher 28 Hydref - 10am - 12 hanner dydd a 1.30-3.30pm yn Archifdy Sir y
Fflint. Dau weithdy teuluol ar y thema Ar Drywydd Stori drwy Penarlâg.
Ffoniwch yr Archifdy ar 01244 532364 neu e-bostiwch archives@flintshire.gov.uk