Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Agoriad swyddogol Sgwâr Daniel Owen
Published: 20/10/2015
Bydd y Sgwâr Daniel Owen sydd newydd ei ailddatblygu yn yr Wyddgrug yn agor yn
swyddogol ddydd Iau 22 Hydref fel rhan o’r dathliadau Gwyl Daniel Owen
blynyddol.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys seremoni agoriadol, ynghyd â cherddoriaeth,
dawnsio, darlleniadau a chladdu capsiwl amser, sydd wedi cael ei wneud gan
brentisiaid yn Airbus, gan ddefnyddio tiwb titaniwm or system tanwydd oddi ar
awyren A380.
Ar ôl y cysyniad cychwynnol i ailddatblygu Sgwâr Daniel Owen, cafwyd
ymgynghoriad cyhoeddus gan Bartneriaeth Tref yr Wyddgrug yn 2009. Ar y pryd,
defnyddiwyd y sgwâr ar gyfer y farchnad ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn, ond am
weddill yr wythnos roedd
yn dawel. Ystyriwyd bod y lle wedi dyddio ac nad oedd ei botensial llawn wedi
ei wireddu.
Drwy ffurfio cynllun gweithredu ar gyfer y dref, daeth y prosiect yn un or
prif flaenoriaethau. Gan ystyried sylwadau or ymgynghoriad, y ffocws oedd
diweddaru’r lle a chreu ardal aml-ddefnydd, a allai gael ei ddefnyddio ar
gyfer digwyddiadau a gwahanol berfformiadau yn ogystal â pharhau i gael ei
ddefnyddio ar gyfer y farchnad lwyddiannus. Yn 2012, daeth y cyfle am gyllid,
ac yn dilyn llawer o waith dylunio, cynllunio a rheoli
prosiect, cafodd cyfleuster newydd ei ddatblygu i bawb ei fwynhau.
Maer prosiect wedi ei ariannu’n rhannol gan Gyngor Sir y Fflint, Cronfa
Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, syn
cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer
Datblygu Gwledig.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint:
“Mae’r gwaith i ailddatblygu Sgwâr Daniel Owen wedi bod yn gyfle gwych i
wella’r ardal hon yng nghanol y dref. Mae cael cyllid yn ystod cyfnod
economaidd mor anodd yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Rydym wedi gallu creu
gofod aml-ddefnydd o ansawdd uchel i bawb ei fwynhau, a fydd hefyd yn helpu i
gynnal bywiogrwydd a hyfywedd y
dref. Bellach, mae gan bobl yr Wyddgrug sgwâr y dref y gallant fod yn falch
ohono. Rwyf wrth fy modd gyda’r canlyniad terfynol.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans AC: Rydym yn
falch o fod wedi cefnogi menter fel hyn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth
Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig, gan roi cyfleoedd gwych i ddatblygu
cymunedau gwledig ar draws Cymru.
Yn ystod yr wythnos hon, mae rhaglen o lenyddiaeth, cerddoriaeth, llefaru,
perfformiadau byw a chelfyddydau yn digwydd yn y dref ar ardal gyfagos fel
rhan o Wyl Daniel Owen, sydd bellach yn ei chweched flwyddyn. Maer Wyl yn
dathlu bywyd a gwaith mab enwocaf y dref, nofelydd Fictoraidd a aeth o dlodi i
boblogrwydd ac enwogrwydd cenedlaethol
yn ystod ei fywyd ei hun. Mae rhaglen yr Wyl yn rhedeg drwyr wythnos tan
Ddydd Gwener 23 Hydref.
I weld y rhaglen lawn, ewch i www.danielowenfestival.com neu ddilyn twitter
@DanielOwen1836. Mae tocynnau ar gael
o Lyfrgell yr Wyddgrug 01352 754791.
Nodyn i Olygyddion
Fech gwahoddir i anfon ffotograffydd i ddigwyddiad yr agoriad swyddogol a fydd
yn dechrau am 10.30am ddydd Iau 22 Hydref.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Wyl, cysylltwch â Kevin Matthias ar 01352
754903 neu Nia Jones ar 01352 754791.