Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Archwiliwch eich Archifau
Published: 29/10/2015
Bydd Archifdy Sir y Fflint yn cynnal sgwrs ynglyn â ‘sgandal’ Edwardaidd.
Cyflwynir y sgwrs a elwir yn ‘Ellen Penketh – Thief or Innocent Cook’ gan
staff o’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel rhan o ymgyrch genedlaethol Archwiliwch Eich
Archifau.
Roedd Ellen Penketh yn gogydd yn Erddig, Wrecsam, a gafodd ei hamau’n
ddiweddarach o fod yn lleidr.
Bydd y sgwrs yn datgelu datblygiadau’r digwyddiadau a sut y symudodd o fywyd yn
y gegin i fywyd tu ôl i farrau cell a sut y daeth yn un o’r sgandalau mwyaf yn
yr ardal leol.
Bydd y sgwrs yn seiliedig ar gofnodion gwreiddiol o gasgliad archifau Erddig a
gedwir yn
Yr Archifdy, Hen Adeilad y Rheithordy, Penarlâg. Bydd y Gwarchodwr Mark Allen
hefyd yn trafod cadwraeth Llyfr Teulu Erddig a ariennir gan grant.
Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad a gynhelir ddydd Sadwrn 14 Tachwedd rhwng
3-5pm yn hanfodol.
Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad a dysgu am y
stori anhygoel hon
anfon e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffonio 01244 532364.
Nodyn i olygyddion
Mae Ymgyrch Archwiliwch eich Archifau wedi’i ddylunio ar gyfer archifau o bob
math ledled y DU
ac Iwerddon. Cydlynir yr ymgyrch gan yr Archifau Gwladol ac mae Cymdeithas
Archifau a Chofnodion (y DU ac Iwerddon) yn awr yn ei drydedd flwyddyn. Eleni
cynhelir prif wythnos lansio ymgyrch Archwiliwch eich Archifau o ddydd Sadwrn
14 Tachwedd tan ddydd Sul 22 Tachwedd 2015.