Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trwsior lôn gerbydau - yr A548 or Flint i Bagillt
Published: 18/11/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu ymgymryd â’r gwaith o drwsio’r lôn gerbydau
ar ffordd ddeuol yr A548 rhwng y goleuadau traffig ar yr A5119 a chroesfan
Bagillt/Ystâd Ddiwydiannol Manor.
I amharu cyn lleied â phosibl ar deithwyr, bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn
ystod y nos rhwng 7pm a 5am, rhwng dydd Llun a dydd Mercher, fel a ganlyn:
· Y ffordd ddeuol tua’r gogledd (i gyfeiriad Bagillt) - ar gau
nos Lun, nos Fawrth, nos Fercher 23, 24 a 25 Tachwedd rhwng 7pm a 5am.
Caiff traffig ei ddargyfeirio ar hyd yr A5119 i Laneurgain, yr A55 i
Dreffynnon, yr A5026 i Boot End, a’r A548 i Bagillt.
· Y ffordd ddeuol tua’r de (i gyfeiriad y Fflint) - ar gau
nos Lun, nos Fawrth, nos Fercher , 30 Tachwedd ac 1 a 2 Rhagfyr rhwng 7pm
a 5am. Caiff traffig ei ddargyfeirio ar hyd yr A548 i Bootend, yr A5026 i
Dreffynnon,
yr A55 i Laneurgain a’r A5119 i’r Fflint.
Ni fydd mynediad i’r A548 yng nghyffordd ddeheuol Ystâd Ddiwydiannol Manor. Tra
bydd y ffyrdd ar gau, bydd y system unffordd ym mhen gogleddol yr Ystâd
Ddiwydiannol yn dod i ben dros dro a dyma fydd y ffordd i mewn ac allan o’r
ystâd tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymddiheuro am unrhyw anhwylustod y bydd y gwaith yn
ei achosi.