Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynnydd ysgol Westwood wedi’i gydnabod
Published: 18/11/2015
Yn gynharach eleni, tynnwyd Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood, Bwcle, oddi ar
broses fonitro Estyn a’r Sir ar ôl pedair blynedd o her a newid dwys ac i
gydnabod y llwyddiant sylweddol hwn, croesawodd yr ysgol Huw Lewis AC, y
Gweinidog Addysg
a Sgiliau a Carl Sargeant AC dros Alun a Glannau Dyfrdwy wrth iddynt ymweld âr
ysgol.
Mae gwelliannau o £450k i adeilad a thir yr ysgol yn cynnwys tair ystafell
ddosbarth newydd, toiledau disgybl, staff ac anabl newydd, ystafell feddygol,
ystafell staff newydd, ardal chwarae allan Cyfnod Sylfaen gyda wyneb newydd,
gwell mannau mynediad ir adeilad a gwell mesurau diogelwch.
Mae Ysgol Westwood hefyd yn rhannu arfer da yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod
Allweddol 2 gydag ysgolion eraill, yn enwedig ansawdd yr adborth i ddisgyblion,
safonau cyffredinol uchel o waith disgyblion a syniadau arloesol fel darparu
oriorau i bob plentyn o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6 i sicrhau bod pob plentyn yn
gallu dweud yr amser.
Meddai Carl Sargeant, AC Alun a Glannau Dyfrdwy,
“Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood wedi gwyrdroi ei hun dan Bennaeth,
Dirprwy Bennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr cryf, gyda chymorth Cyngor Sir y
Fflint. Maer ysgol a welwn heddiw yn cyflawnin dda ac, yn hanfodol, mae’r
disgyblion mor hapus ac yn cymryd rhan lawn. Roedd yn bwysig ein bod yn dod i
ddathlu’r gwaith caled syn cael ei wneud yma a gwn fod yr hyn a welodd y
Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, wedi creu argraff fawr arno.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC:
“Roeddwn wrth fy modd yn ymweld ag Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood a gweld
drosof fy hun sut y maer ysgol wedi gwyrdroi ei ffawd. Roeddwn yn hynod falch
gyda’r gwelliannau y maer ysgol wedi eu gwneud i’w thir a chyfleusterau,
gwelliannau
na fyddai wedi bod yn bosibl heb waith caled ac ymroddiad y Pennaeth, Mr
Nicholson, ei gydweithwyr addysgu ar corff llywodraethu.
Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid:
“Maer ysgol wedi gwneud cynnydd gwych yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwyn siwr
bod ymroddiad, gwaith caled ac ymrwymiad y staff addysgu a chefnogi ar corff
llywodraethu yn sicrhau y bydd yr ysgol yn mynd o nerth i nerth.”
Dywedodd y Pennaeth, Rob Nicholson,
“Rwyn hynod o falch o ba mor bell yr ydym wedi dod fel ysgol dros fy chwe
blynedd fel Pennaeth.
“Roedd yn fraint i groesawu Mr. Lewis a Mr. Sargeant wrth iddynt ymweld ân
hysgol wych a hoffwn estyn gwahoddiad agored i unrhyw un sydd am ymweld âr
ysgol i weld drostynt eu hunain pa mor bell yr ydym wedi dod a beth rydym yn
ceisio ei gyflawni.”
Nodyn i olygyddion
Yn y llun atodedig mae (or chwith ir dde):
Y Cyng. Neville Phillips, y Cyng. Ron Hampson, Clare Homard, Prif Swyddog
Cynradd, Carl Sargeant AC, y Pennaeth Rob Nicholson, Cadeirydd y Llywodraethwyr
Peter Shone, Huw Lewis AC, y Dirprwy Bennaeth Jayne Williams ar Cyng. Chris
Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg