Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gosod paneli solar ar 400 o gartrefi i arbed £3.3 miliwn i denantiaid
Published: 30/11/2015
Fel rhan o’i raglen fuddsoddi , gwerth £111 miliwn at ei gilydd, i gyrraedd
Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020, mae’r Cyngor wedi manteisio i’r eithaf ar y
cyfle i fuddsoddi mewn paneli solar (PV) ar hyd a lled Sir y Fflint. Bydd y
buddsoddiad penodol hwn o fudd i 400 o dai cyngor ac mae’n cyd-fynd â’r
strategaeth ynni ehangach i inswleiddio eiddo, y tu mewn a’r tu allan. Bydd
hefyd yn dod â nwy i gymunedau a oedd, cyn hynny, ddibynnol ar ddulliau
gwresogi drutach
Bydd y paneli’n lleihau’r gost o redeg y cartrefi dan sylw, yn helpu i leihau
tlodi tanwydd ac allyriadau carbon. Bydd y tenantiaid yn cael trydan am ddim
pan fydd yn olau dydd a bydd y Cyngor yn cael incwm o unrhyw drydan dros ben a
gynhyrchir. Caiff hyn ei ail-fuddsoddi yn y stoc tai. Rhoddwyd blaenoriaeth i
fyngalos mewn ardaloedd gwledig gan fod y rhai sy’n byw yn y rhain fel arfer yn
eu cartrefi yn ystod y dydd a nhw, felly, fyddai’n elwa fwyaf. Disgwylir y bydd
tenantiaid yn arbed dros £3.3 miliwn dros oes y paneli, sef 20 mlynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai,
Rwy’n falch ein bod wedi medru rhoi’r cynllun hwn ar waith; bydd o fudd mawr
i’n tenantiaid. Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i leihau
costau i’n tenantiaid hyn, sy’n fwy tebygol o fod ar incwm sefydlog ac sydd,
felly, yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd. Bydd y Cyngor yn parhau i
chwilio am gyfleoedd i sicrhau bod pob eiddo’n defnyddio ynni mor effeithlon â
phosibl .
Nodyn i olygyddion
O’r chwith i’r dde mae John Sturgess, Cynghorydd George Hardcastle, Rachael
Peers a Cynghorydd Helen Brown.
.