Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yn agor yn yr Wyddgrug
Published: 25/11/2015
Yn dilyn llwyddiant Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon, y
Fflint, Cei Connah a Bwcle, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod y
bumed Ganolfan wedi agor yn yr Wyddgrug.
Mae Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn rhan allweddol o’r broses o
wella’r Cyngor Sir gan roi pwyslais ar wasanaethau cwsmeriaid o’r radd flaenaf
mewn lleoliadau hwylus yng nghanol trefi’r sir. Caiff pob canolfan ei
datblygu’n ôl anghenion y dref y mae’n ei gwasanaethu. Mae’r Ganolfan yn yr
Wyddgrug yn rhan o Lyfrgell yr Wyddgrug yng Nghanolfan Daniel Owen.
Yno, bydd gwybodaeth ar gael i gwsmeriaid ynghyd â gwasanaethau allweddol gan y
Cyngor Sir gan gynnwys gwasanaethau tai, gwasanaethau stryd, a chyngor am
fudd-daliadau lles, bathodynnau glas, teithio consesiynol a’r dreth gyngor.
Bydd y Ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 5pm a bydd
ymgynghorwyr wrth law i helpu ag ymholiadau ynglyn â’r uchod ac unrhyw
ymholiadau eraill yn ymwneud â’r Cyngor. Bydd modd defnyddio TGCh a bydd rhan
benodol o’r Ganolfan wedi’i neilltuo ar gyfer cwsmeriaid sydd am gael
trafodaeth breifat ag ymgynghorydd.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol:
“Rwy’n hynod falch ein bod yn parhau i wneud cynnydd rhagorol o ran ein
hymrwymiad i gyflwyno Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn nhrefi’r sir. Y
Ganolfan yn Nhreffynnon oedd y gyntaf o’i math yn y Gogledd ac, o ganlyniad,
mae’r modd rydym yn darparu gwasanaethau wedi gwella’n arw; mae’n braf gweld
ein bod yn awr wedi ehangu’r gwaith rhagorol hwnnw ar hyd a lled y sir.”