Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arddangosfa Gill Benjamin a Jackie Walter
Published: 30/11/2015
Cynhelir arddangosfa ysbrydoledig o beintiadau a gwaith celf cyfrwng cymysg gan
yr artistiaid dawnus Gill Benjamin a Jackie Walter o Fynydd Isa, Sir y Fflint
yn Llyfrgell Bwcle rhwng 1 a 23 Rhagfyr. Dyma’r chweched mewn cyfres o
arddangosfeydd, Lliw yn y Llyfrgell, sy’n anelu at gefnogi artistiaid lleol,
rhai ohonynt sydd erioed wedi arddangos eu gwaith o’r blaen, drwy roi llwyfan
iddynt arddangos i’r cyhoedd. Drwy gydol y flwyddyn bydd y rhaglen o
arddangosfeydd yn Llyfrgelloedd Sir y Fflint yn cynnwys peintiadau gan Angie
Hoopert, Emma-Jayne Holmes a Clayton Langford a ffotograffiaeth gan Ceridwen
Barkley.
Meddai Gill Benjamin:
“Artist amatur ydw i sy’n byw yn Mynydd Isa. Rydw i wedi mwynhau peintio drwy
gydol fy oes, ond ers i mi ymddeol, gallaf fwynhau fy angerdd tuag at beintio’n
fwy cyson. Mae pob pwnc o ddiddordeb i mi – yn arbennig tirweddau, morluniau,
pensaernïaeth a phortreadau o anifeiliaid. Rwy’n croesawu heriau newydd.
Rwy’n mwynhau gweithio mewn nifer o gyfryngau: acrylig yw fy ffefryn ar hyn o
bryd.”
Meddai Jackie Walter:
“Ar ôl ymddeol rwyf wedi dychwelyd at ddiddordeb yr wyf wrth fy modd yn ei
wneud……. Peintio!
Rwy’n cael fy ysbrydoli gan natur a chefn gwlad hardd Cymru, cyrchfannau
gwyliau ac yn aml ffotograffau sy’n mynnu cael eu peintio. Mae gennyf
chwilfrydedd am weadau mewn creigiau a phlanhigion ac rwy’n mwynhau gweithio
gyda chyllell balet i greu effaith. Mae pob darn o waith yn mynd â fi ar
siwrnai wahanol ac yn dod â phrofiadau newydd i mi. Rwy’n aelod o Rwydwaith
Celf a Chrefft Gweledol Sir y Fflint a Grwp Celf Treffynnon. Rwyf wedi mwynhau
arddangos a gwerthu fy ngwaith yn lleol ac rwyf wedi cwblhau nifer o beintiadau
ar gomisiwn.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg:
“Rwy’n falch fod tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint a’n
gwasanaeth Llyfrgelloedd yn parhau i gefnogi doniau lleol – gan arddangos eu
gwaith a chefnogi ein hartistiaid fel busnesau.”
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwenno Jones drwy e-bostio
gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk