Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybr troed newydd wedii gwblhau
Published: 14/12/2015
Mae gwaith ar lwybr troed newydd i wella diogelwch ger Ysgol Uwchradd Argoed
wedi’i gwblhau.
Dynodwyd y gwaith ar Bryn Road, Bryn y Baal yn flaenoriaeth gan Gyngor Sir y
Fflint ar ôl iddo ddiogelu £247,000 o arian ‘Llwybrau Diogel mewn Cymunedau’
gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgyrch i osod llwybr troed ar y ffordd brysur er
mwyn gwneud yr ardal yn fwy diogel i fyfyrwyr sy’n cerdded i’r ysgol.
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr
Amgylchedd:
“Rwy’n falch iawn fod y gwaith wedi’i gwblhau ar amser.
“Mae’r llwybr hwn yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion ysgol a phreswylwyr yn
ddyddiol a bydd y llwybr troed newydd a’r groesfan sebra yn gwella diogelwch i
bawb.”
Nodyn i Olygyddion
Bydd y Cynghorydd Bernie Attridge yn cyfarfod â chynghorwyr lleol a
chynrychiolwyr o Ysgol Uwchradd Argoed i archwilio’r llwybr newydd am 9.30am
ddydd Mercher, 16 Rhagfyr. Fe’ch gwahoddir i anfon ffotograffydd.