Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pass Plus Cymru ar gyfer gyrwyr newydd
Published: 05/01/2016
Mae gyrwyr newydd rhwng 17 a 25 oed sydd wedi pasio eu prawf yn ddiweddar yn
gallu elwa o gwrs Pass Plus Cymru a ariennir gan y Llywodraeth.
Gall unrhyw berson ifanc, 17-25 oed sydd wedi pasio eu prawf, ac syn byw yng
Nghymru elwa ar y cwrs am gost cymorthdaledig o £20. Nod y cwrs yw lleihau
nifer y bobl ifanc syn cael eu lladd neu eu hanafun ddifrifol mewn
digwyddiadau traffig ffordd ac mae’n cynnwys:
• Peryglon defnyddio ffôn symudol wrth yrru
• Peryglon yfed a chyffuriau wrth yrru
• Teithio ar y draffordd
• Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
• Teithio o gwmpas fin nos
• Ymdopi mewn trefi a dinasoedd prysur
• Gyrru ar ffyrdd gwledig
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd: “Nod y cyrsiau hyn yw cyflawni sgiliau gyrru gwell a lleihau’r
siawns o gael gwrthdrawiad neu anafu eich hun, ffrindiau ac eraill. Byddwn yn
annog pob gyrrwr newydd or oedran hwn i gymryd y cyfle hwn a chymryd rhan yn
Pass Plus Cymru i ddysgu sgiliau gyrru newydd a chadwn ddiogel.
Maer cwrs nesaf dydd Llun 11 Ionawr yn dechrau am 6.30pm yn Nepo Alltami,
Cyngor Sir y Fflint, Ffordd Yr Wyddgrug, Alltami. I gael rhagor o wybodaeth,
neu i drefnu lle ar gwrs, ffoniwch 01745 828180 neu ewch i www.dragondriver.com