Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygur Cynllun Rhyddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn
Published: 14/01/2016
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 19 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn
ystyried adroddiad yn argymell adolygu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi yn ôl
Disgresiwn.
Mae’r cynllun hwn yn helpu sefydliadau sydd wedi cofrestru fel elusennau, cyrff
gwirfoddol a chyrff dielw nad ydynt wedi cofrestru â’r Comisiwn Elusennau. Er
bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynllun bob blwyddyn, nid yw’r egwyddorion sy’n
pennu pa gyrff sy’n cael rhyddhad ardrethi, ac ar ba lefel, wedi’u hadolygu ers
2010. Nid oes unrhyw gynigion i newid y cynllun yn 2016/17 gan mai adolygiad
mwy hirdymor yw hwn.
Yn ôl y cynllun hwn, mae 213 o gyrff yn cael rhyddhad ardrethi gwerth £273,131
at ei gilydd ac mae’r Cyngor yn ysgwyddo costau blynyddol o £103,000 a
Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo £170,131.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor,
“Mae angen cynyddol i gynnal adolygiad llawn o’r Rhyddhad Ardrethi yn ôl
Disgresiwn. Mae’n bosibl y gellid arbed arian i’r Cyngor a helpu i bontio’r
bwlch yn y gyllideb o 2017-18 a’r tu hwnt. Bydd y cyfle i adolygu’r cynllun
hefyd yn ein helpu i ystyried cynllun arall y gellir ei roi ar waith o fis
Ebrill 2017 ymlaen.