Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
SHARP - Y camau nesaf
Published: 14/01/2016
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Chwefror, bydd y Cyngor Sir yn ystyried
adroddiad yn gofyn iddo gytuno ar y camau allweddol nesaf yng Nghynllun Tai ac
Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP) .
Yn yr adroddiad, ceir cynigion i godi 12 o dai cyngor newydd yng Nghei Connah
ar safle hen Ysgol Custom House Lane, oddi ar Ffordd yr Wyddgrug.
Mae’r datblygiad ar safle Custom House yn rhan o Raglen Tai ac Adfywio
Strategol y Cyngor (SHARP) i godi 500 o gartrefi newydd yn Sir y Fflint dros y
pum mlynedd nesaf. Bydd Wates Living Space, partner tai strategol y Cyngor, yn
dechrau ar y gwaith adeiladu ym mis Chwefror 2016, a bydd wedi’i gwblhau erbyn
mis Chwefror 2017.
Caiff y tai eu hadeiladu i safon uchel a byddant yn bodloni Safon Tai Sir y
Fflint a Secured by Design. Bydd y cynllun yn seiliedig ar edrychiad yr hen
ysgol a bydd y deunyddiau adeiladu’n gydnaws â’r ardal leol. Mae’r deunyddiau
eraill y bwriedir eu defnyddio’n cynnwys nodweddion gwaith brics glas ar y
waliau allanol a chyrsiau sy’n efelychu nodweddion yr adeilad gwreiddiol
(linteri cerrig a manylion fel cerrig yn nodi’r dyddiad) a nodweddion a gafodd
eu hadfer wrth ddymchwel yr hen ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai:
“Bydd y gwaith o adfywio’r safle hwn yn rhoi cyfle gwell i bobl leol gael ty
yng Nghei Connah ac mae’n nodi dechrau cyfnod cyffrous yn hanes y Cyngor gan y
bydd yn cyflawni hen uchelgais i ddarparu tai fforddiadwy o safon; tai y mae eu
dirfawr angen ar hyd a lled y sir.
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
Rwy’n falch mai Sir y Fflint fydd y Cyngor cyntaf yn y Gogledd i ddechrau
gweithio a safle fel rhan o raglen adeiladau tai cyngor. Mae’r Cyngor wedi
ymrwymo i gymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn 2016 ac
rwy’n ymfalchïo yn y ffaith mai yng Nghei Connah y caiff y tai cyngor cyntaf
i’w hadeiladu yn y sir ers cenhedlaeth”.
Nodyn i olygyddion
Mae darlun o gynllun Custom House ynghlwm