Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Casgliadau Gwastraff Gardd 2021
Published: 18/01/2021
Mae modd i chi rwan danysgrifio i dderbyn gwasanaeth casgliadau gwastraff gardd Cyngor Sir y Fflint, a fydd yn ailddechrau ar 1 Mawrth 2021 ac ar gael tan 11 Rhagfyr 2021.
Fe allwch chi gofrestru â’r gwasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ond rydym ni’n annog pobl i wneud hynny’n fuan i sicrhau eu bod yn manteisio ar wasanaeth casglu llawn y tymor.
Oherwydd ein bod ni wedi atal y casgliadau gwastraff gardd yn 2020 mae yna ddwy ffi ar gyfer y gwasanaeth eleni i wneud iawn i’r rheiny a dalodd yn llawn y llynedd ond na dderbynion nhw’r gwasanaeth llawn (rhwng canol mis Mawrth a chanol mis Mehefin 2020).
Dyma’r ffioedd:
Aelwydydd a dalodd yn llawn cyn 1 Mehefin 2020:
• £24.00 i BAWB sy’n talu ar-lein
• £24.00 os talwch chi ar neu cyn 28 Chwefror 2021
• £27.00 os talwch chi ar neu ar ôl 1 Mawrth 2021
Aelwydydd a dalodd y gyfradd is ar neu ar ôl 1 Mehefin 2020 a’r rheiny sy’n cofrestru am y tro cyntaf:
• £32.00 i BAWB sy’n talu ar-lein
• £32.00 os talwch chi ar neu cyn 28 Chwefror 2021
• £35.00 os talwch chi ar neu ar ôl 1 Mawrth 2021
Wrth lenwi’r ffurflen danysgrifio bydd y system yn adnabod y gyfradd y byddwch chi’n ei thalu yn awtomatig. Fe allwch chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth drwy fynd i wefan y Cyngor neu ein ffonio ni ar 01352 701234.
Roedd 2020 yn flwyddyn heb ei thebyg o’r blaen ac roedd y penderfyniad i atal y casgliadau gwastraff gardd yn un anodd iawn i’w wneud. Rydym ni’n ffyddiog y bydd tymor 2021 yn un heb amhariadau ond, wrth i’r ymateb i’r pandemig barhau, bydd yn rhaid i ni adolygu blaenoriaethau’r gwasanaeth yn rheolaidd.
Meddai'r Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint:
“Yn dilyn blwyddyn gymhleth ac atal y gwasanaeth gwastraff gardd dros dro oherwydd cyfyngiadau Covid-19, rydym ni’n gobeithio am flwyddyn lai trafferthus. Rydym ni’n annog preswylwyr i gofrestru’n fuan ar gyfer y gwasanaeth poblogaidd yma er mwyn iddyn nhw fanteisio i’r eithaf ar y tymor casglu.
"Mae’r holl wastraff gardd a gasglwn yn cael ei gompostio’n lleol yn y sir ac yn cyfrannu at gyrraedd ein targedau ailgylchu cenedlaethol. Fe allwch chi gasglu’r compost a gynhyrchir yn rhad ac am ddim o un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
"Atgoffir preswylwyr bod y gwastraff gardd a dderbynnir gan y gwasanaeth hwn yn cynnwys glaswellt wedi’i dorri, dail, torion perthi, brigau, rhisgl a changhennau bach. Peidiwch â defnyddio’r bin brown ar gyfer plicion ffrwythau a llysiau, gwastraff bwyd, cardbord, papur, pridd a rwbel nac ar gyfer gwastraff, baw a deunydd gorwedd anifeiliaid.”