Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cartrefi newydd ar safle hen hufenfa
Published: 19/01/2016
Mae gwaith yn cael ei wneud i baratoi ar gyfer dymchwel adeilad hen hufenfa ar
Ffordd yr Wyddgrug, Cei Connah ac wyth eiddo gerllaw (rhifau 149 i 159) ar Heol
Fawr y dref.
Mae gan y Cyngor ddyhead hirdymor i adfywio Glannau Dyfrdwy ac yn 2010
datganodd y byddai rhannau o Gei Connah, Shotton a Queensferry yn cael eu
gwneud yn ‘Ardaloedd Adnewyddu’. Fel rhan o’r gwaith hwn a gyda chyllid ‘Grant
Cyfalaf Penodol ar gyfer Ardal Adnewyddu’ Llywodraeth Cymru, dechreuodd y
Cyngor gaffael eiddo i’w dymchwel. Dewiswyd yr adeiladau gan eu bod yn
cynrychioli safle allweddol yng Nghei Connah, roedd llawer ohonynt yn wag ac
roedd y mwyafrif mewn cyflwr gwael iawn.
Gyda chymorth rhaglen ariannu ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’ Llywodraeth
Cymru, a ddyfarnodd £6.042m i’r Cyngor ym mis Ionawr 2014, caffaelwyd yr eiddo
olaf ym mis Mawrth 2015 gan alluogi’r Cyngor i symud ymlaen i ailddatblygu’r
safle. Caiff y gwaith dymchwel ei gwblhau ar ddiwedd mis Mawrth yna caiff
pridd ei osod ar y safle cyn gwasgaru hadau glaswellt.
Gofynnwyd i bartner datblygu strategol y Cyngor ar gyfer y Rhaglen Tai ac Adfer
Strategol (SHARP), sef Wates Living Space, edrych ar y safle a datblygu rhai
cynigion i’w hystyried yn ddiweddarach eleni.
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor ac aelod or ward lleol,
Disgwylir i’r gwaith ar y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu ers
dros 20 mlynedd ddechrau ym mis Chwefror nepell o’r hen hufenfa ar safle hen
Ysgol Custom House Lane. Dyma’r datblygiad cyntaf o dan gynlluniau tai
uchelgeisiol y Cyngor ac rwy’n falch iawn y bydd safle’r hen hufenfa ar Ffordd
yr Wyddgrug heyfd ar gael i gyflawni ein cynlluniau i ddarparu cartrefi newydd
a fydd yn cynnwys 200 o dai cyngor newydd a 300 o gartrefi fforddiadwy dros y
pum mlynedd nesaf.
Mae’r safle hwn wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn. Bydd dymchwel a’i
ailddatblygu’n ein helpu i adfer y Dref yn y lleoliad hwn
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac aelod or ward lleol,
Bydd y safle hwn yn rhoi cyfle i ddatblygu mwy o gartrefi newydd a fforddiadwy
a fydd o safon uchel ac ar gael i bobl leol, gan helpu i ysgogi adferiad
pellach a dod â gwelliant mawr ei angen i’r rhan hon o’r dref.