Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Diweddariad ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP)
Published: 10/02/2021
Ddydd Mawrth 16 Chwefror gofynnir i Aelodau Cabinet Sir y Fflint nodi cynnydd gyda SHARP yn ogystal â chefnogi llwybrau cyflawni newydd ar gyfer rhent cymdeithasol a fforddiadwy newydd.
Bydd aelodau hefyd yn ystyried y newidiadau yn yr angen o ran tai, a’r rhesymeg ar gyfer adolygu a diwygio’r mathau o ddeiliadaeth ar gyfer datblygiad eiddo yn y dyfodol.
Roedd Sir y Fflint yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ail-gychwyn adeiladu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy trwy SHARP, gan weithio gyda’u contractwr a benodwyd, Wates Construction, yn Ebrill 2016. Hyd yma, mae SHARP wedi cyflawni cyfanswm o 447 o eiddo cymdeithasol, fforddiadwy, perchnogaeth cartref cost isel a phreifat.
Yn ogystal â SHARP, mae’r Cyngor a Chartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (“NEW Homes”) wedi gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o ddatblygwyr o Ogledd Cymru i adeiladu 148 o gartrefi cymdeithasol a rhent fforddiadwy.
Mae cyfanswm o 595 o gartrefi newydd wedi eu hadeiladu.
Mae'r Cyngor a NEW Homes yn datblygu ac yn defnyddio trefniadau eraill i wireddu dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr tai i adeiladu “yn gyflym ac ar y raddfa gywir” i fodloni’r galw cynyddol am dai fforddiadwy yn Sir y Fflint.
Hefyd, sefydlwyd Cytundeb Fframwaith Adeiladu Tai Gogledd a Chanolbarth Cymru gan Gynghrair Caffael Cymru i wneud caffael datblygiadau tai newydd yn fwy effeithlon ac i gydymffurfio â rheolau caffael y sector cyhoeddus.
Defnyddir y fframwaith ar gyfer adeiladu pob math o dai, gan gynnwys byngalos, fflatiau a rhandai, cartrefi gofal a llety a rennir a thai gwarchod, yn cynnwys bob ffurf o ddeiliadaeth.
Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:
“Mae SHARP wedi bod yn llwyddiannus iawn a rhaid i ni beidio â cholli momentwm wrth iddo ddod i ben. Mae angen i ni fod yn hyblyg ac addasu i’r gofynion lleol am dai. Dyna pam rydym yn cydweithio i wella cyfleoedd tai i bobl sydd ag anghenion penodol, er enghraifft, pobl sy'n gadael gofal, pobl ag anawsterau dysgu neu bobl sydd angen addasiadau.”