Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Penderfyniad ar Welliannau i Stryd Fawr yr Wyddgrug
Published: 11/02/2021
Yn ddiweddar, ymgynghorodd Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref yr Wyddgrug ar gynigion i greu system unffordd barhaol ar Stryd Fawr Isaf yr Wyddgrug er mwyn gwella’r amgylchedd i gerddwyr a beicwyr.
Roedd ymateb ardderchog i’r ymgynghoriad gyda dros 300 o ymatebion wedi’u derbyn yn ogystal â’r sylwadau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol.
Er bod nifer o ymatebion o blaid holl neu ran o’r cynllun arfaethedig, roedd nifer o bryderon sylweddol am yr effaith posibl y bydd y traffig dadleoledig yn ei gael ar strydoedd preswyl cyffiniol a’r ymyrraeth dros dro wrth i’r gwaith gael ei gynnal.
Felly, penderfynwyd peidio â gweithredu’r system unffordd arfaethedig a lôn feicio ar y Stryd Fawr Isaf. Yn hytrach, bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar wella’r rhwydwaith feicio ehangach.
Ni fydd y cynnig i adnewyddu’r goleuadau traffig ar bob pen o’r Stryd Fawr Isaf a’r gwelliannau i’r amgylchedd i gerddwyr yn cael ei weithredu yn y dyfodol agos er mwyn atal ymyrraeth i’r dref wrth iddo adfer o sefyllfa Covid-19. Fodd bynnag, byddent yn cael eu symud ymlaen rhyw dro yn y dyfodol pan fydd cyllid yn caniatáu hynny.
Hoffai’r Cyngor ddiolch i bawb a gymerodd amser i ymateb i’r ymarfer ymgynghori.