Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datblygu Uwchgynllun ar gyfer Shotton
Published: 11/02/2021
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn trafod y potensial i ddatblygu Uwchgynllun ar gyfer ardal Shotton yn eu cyfarfod ddydd Mawrth 16 Chwefror.
Mae Shotton yn un o brif drefi Sir y Fflint sydd â chyfleusterau lleol da a chysylltiadau cludiant gwych i’r rhwydweithiau bysiau a threnau lleol a rhanbarthol, yn ogystal â’r rhwydweithiau teithio llesol a’r priffyrdd. Mae yna hefyd lawer o ardaloedd o fewn y dref sydd â photensial sylweddol ar gyfer cyfleoedd i ddatblygu.
Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd nifer cynyddol o bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion amgylcheddol eraill a allai ddifetha’r ardal os na fydd unrhyw un yn mynd i’r afael â nhw. Mae’r rhain yn tanseilio ymdrechion lleol i gadw’r dref yn lân a thaclus ac i sicrhau bod pobl yn parhau i fod eisiau byw a gweithio yno, yn ogystal ag ymweld â’r dref.
Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd posibl sydd ar gael, mae cynnig wedi dod i law i edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu Uwchgynllun ar gyfer Shotton a fyddai’n cael ei oruchwylio gan Grwp Llywio a fyddai’n cynnwys Cynghorwyr Sir lleol a grwpiau o fudd-ddeiliaid lleol allweddol. Mae’r Cyngor eisoes wedi buddsoddi’n sylweddol yn yr ardal, gan gynnwys Hwb Cyfle (Canolfan Ddydd i Oedolion), a Phlas Derwen (Uned Cyfeirio Disgyblion) newydd sbon gwerth £11m, Ty Calon (Canolbwynt Cymunedol) ac adnewyddu Ysgol Gynradd Queensferry. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar gyfer dyfodol Gorsaf Shotton a Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, ac mae hyn oll yn dangos ymroddiad tuag at ddyfodol yr ardal ehangach.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
“Mae gan Shotton, fel cymuned, lawer o fanteision, yn ogystal â materion mae angen i ni fynd i’r afael â nhw. Rydym yn gobeithio datblygu cynllun realistig y gall y gymuned allweddol hon yn ein sir ymgyrraedd tuag ati. Yn hyn o beth, mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar safbwyntiau’r gymuned wrth lunio’r Uwchgynllun.”
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
“Byddai’r Cynllun yn dod â’r bobl iawn at ei gilydd, gan anelu at edrych ar ffyrdd i adfywio a chyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen ar ganol y dref. Byddai hyn yn cynnwys edrych ar ffrydiau cyllido posibl i hwyluso’r gwaith.”